Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaith o dreialu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru bellach wedi dechrau mewn saith ardal beilot ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pum prosiect peilot yn cael eu cynnal mewn rhannau o Abertawe, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Chaerffili. Bydd y chweched yn brosiect ar y cyd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddant yn profi pob agwedd ar y Cynnig Gofal Plant newydd i Gymru er mwyn sicrhau y bydd modd i rieni allu manteisio ar y cynnig a hefyd y bydd yn gynaliadwy yn y tymor hir pan fydd wedi'i gyflwyno ym mhob cwr o Gymru. 

Bydd y cynnig yn cynnwys 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed, hy rhieni sy'n gymwys ac yn gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd yr addysg gynnar sy’n cael ei ddarparu am ddim ar hyn o bryd yn rhan o'r Cyfnod Sylfaen yn rhan o'r cynnig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Mae rhieni, menywod yn arbennig, yn dweud wrthon ni fod problemau o ran dod o hyd i ofal plant fforddiadwy yn un o'r rhesymau pam nad ydyn nhw'n ceisio am waith â thâl. Dyna pam mae darparu 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu gan y Llywodraeth i blant sy'n 3 a 4 blwydd oed ar gyfer rhieni sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn, yn un o brif flaenoriaethau'r llywodraeth hon. 

“Fe fydd gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael yn hwylus, yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymdrechion i wella twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd a manteision yn y tymor hir ar gyfer ein plant ac yn gwella eu cyfleoedd bywyd.

“Mae hwn yn ymrwymiad pwysig iawn, felly rydyn ni'n benderfynol o lwyddo. Dyna pam rydyn ni'n treialu'r cynnig yn ofalus iawn a pham y bydd y cynlluniau peilot hyn mor werthfawr yn ein helpu ni i ddeall y ffordd orau o fynd ati i sicrhau ei fod yn gweithio i rieni, darparwyr a phlant."