Neidio i'r prif gynnwy

Peilot i asesu perfformiad ac ymarferoldeb defnyddio technoleg BEID ar ffermydd ac mewn marchnadoedd a lladd-dai yng Nghymru a Lloegr.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Prosiectau Peilot DEFRA a Llywodraeth Cymru ar Dagiau Adnabod Electronig ar gyfer Gwartheg (BEID): Adroddiad Terfynol ar y Cyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Ynghyd â DEFRA, ein nod yw cyflwyno system electronig orfodol ar gyfer adnabod gwartheg BEID yng Nghymru a Lloegr.

I gyflwyno BEID, bydd ffermwyr yn gorfod gosod tagiau EID ar glustiau lloi a enir ar ôl y dyddiad cychwyn. Gellir defnyddio dwy dechnoleg amledd radio (RFID) i adnabod gwartheg: amledd isel (LF) ac amledd uchel iawn (UHF). 

I’w helpu gyda’u penderfyniadau, comisiynodd Llywodraeth Cymru a Defra Brifysgol Harper Adams i gynnal dau beilot. Cafodd y treialon eu cynnal ar ffermydd a lladd-dai yng Nghymru a Lloegr ac mewn marchnadoedd yn Lloegr. 

Edrychodd y peilot yng Nghymru ar dechnoleg LF heb edrych ar UHF. Bydd penderfyniadau ynghylch UHF yng Nghymru yn defnyddio tystiolaeth o’r treialon yn Lloegr. Mae’r Adroddiad Terfynol ar y Cyd yn disgrifio’r treialon yng Nghymru ac yn Lloegr.