Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi dros £30 miliwn ar gyfer tai arloesol yng Nghymru, fel rhan o gronfa o £90 miliwn i brofi ffyrdd newydd o weithio er mwyn helpu i ddatblygu tai cymdeithasol a fforddiadwy.
Mae'r prosiectau a fydd yn cael eu hariannu yn cynnwys y canlynol:
- 76 o gartrefi yn Rhuthun o gymdeithas tai ClwydAlyn. Gallai'r rhain fod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig (DU) i ddatblygu cartrefi di-garbon oes gyfan sydd ag ynni adnewyddadwy yn lleddfu effaith y gwaith cynhyrchu ac adeiladu o ran allyriadau carbon. Bydd gan y cartrefi bympiau gwres ffynhonnell aer, pŵer solar a batris deallus - ac amcangyfrifir y bydd costau gwresogi a goleuo yn llai na £80 y flwyddyn.
- Dau safle a ddatblygwyd gan gymdeithas tai Sir Fynwy yng Nghas-gwent i greu 17 o gartrefi i bobl sydd am symud i gartref llai, a'r rheini sy'n prynu am y tro cyntaf ac y gallai'r nifer yn yr aelwyd gynyddu. Bydd dyluniad y cartrefi'n sicrhau bod modd ychwanegu ystafell wely arall i gynnig hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol.
- Bydd Cyngor Caerdydd yn adeiladu 214 o gartrefi carbon isel, a fydd yn gymysgedd o dai cyngor a chartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored yn Nhredelerch.
- Bydd Cyngor Abertawe'n adeiladu 25 o gartrefi sy'n bodloni 'Safon Ansawdd Abertawe', sef carbon isel, yn effeithlon o ran ynni, yn cynnwys paneli solar, ac wedi'u cynllunio i sicrhau costau isel i denantiaid gynnal eu cartrefi.
Heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cread Adran Tir Sector Cyhoeddus newydd. Bydd yr adran yn helpu’r datblygiad cynaliadwy o dir sector cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar gynyddu’r nifer o dai cymdeithasol yng Nghymru.
Bu Julie James yn cyhoeddi'r cyllid newydd ym Mharc yr Helyg, Birchgrove, Abertawe. Roedd y prosiect wedi derbyn cyllid drwy'r Rhaglen Tai Arloesol mewn cylch blaenorol.
Dywedodd:
Rydyn ni’n wynebu heriau difrifol yng Nghymru, o ran ymateb i'r argyfwng ar yr hinsawdd a hefyd sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy ar gael. Mae'r rhaglen hon yn cynnig y cyfle inni ddatblygu cartrefi sydd â biliau tanwydd isel er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Maen nhw’n gartrefi sydd wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i sicrhau carbon isel, ac yn gartrefi a fydd yn gallu addasu yn ôl gofynion yr aelwyd.
Mae'n gyfle inni ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n bodloni'r holl heriau hynny. Byddan nhw'n lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd, sy’n golygu bod modd inni adeiladu llawer o gartrefi sy'n diwallu anghenion ein cymunedau.
Mae tai deniadol o ansawdd da yn hynod o bwysig i fywydau pobl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn datblygu, ac at weld y cartrefi gorffenedig.