Fe lwyddodd Cymru i sicrhau 51 o brosiectau mewnfuddsoddi yn 2018-19 a fydd yn creu ac yn diogelu cyfanswm o 3,704 o swyddi – a 75% o’r prosiectau hynny wedi cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Dyna mae ffigurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n ei ddangos.
Mae ystadegau Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU yn dangos bod 2,314 o swyddi newydd wedi’u creu, a 1,390 arall wedi’u diogelu. Am bob prosiect yng Nghymru, cafodd 73 o swyddi eu creu – y perfformiad rhanbarthol gorau yn y Deyrnas Unedig.
Roedd 43% o’r prosiectau o’r UE, 22% o Ogledd America a 35% o weddill y byd.
Yn ogystal, sicrhawyd 65 o fuddsoddiadau gan gwmnïau sydd â’u pencadlys yn y DU. Roedd y rhain yn addo creu 1,759 o swyddi newydd a diogelu 699 arall. O Loegr y daeth mwyafrif llethol y prosiectau hyn.
Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:
“Mae Cymru’n dal i ddenu buddsoddiadau o wledydd ym mhob cwr o’r byd, o 20 o wledydd gwahanol - yn amrywio o wledydd Ewropeaidd bach fel Malta a Cyprus i economïau mawr Unol Daleithiau America, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Tsieina a Hong Kong.
“Rwy’n falch iawn fod 75% o’r prosiectau a ddaeth i Gymru wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dangos yn glir y gwaith allweddol mae fy adran yn ei wneud i helpu buddsoddwyr i ddewis Cymru. Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i ddenu mwy o fuddsoddiadau i Gymru yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled y wlad.”
Mae’r ffigurau’n dangos bod Cymru wedi gweld gostyngiad o 10.5% yn nifer y prosiectau buddsoddi uniongyrchol o wledydd tramor a sicrhawyd yn ystod 2018-19, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a bod y DU i gyd wedi gweld gostyngiad o 14%.
Ychwanegodd y gweinidog:
“Does dim dwywaith mai’r ansicrwydd sylweddol y mae busnesau’n ei wynebu oherwydd Brexit sy’n gyfrifol am hyn. Rwy wedi siarad â llu o gwmnïau yn ystod y misoedd diwethaf, sydd wedi dweud wrthyf i eu bod eisiau buddsoddi yng Nghymru ond eu bod yn petruso oherwydd yr ansicrwydd ynghylch natur y berthynas rhwng y DU ac Ewrop yn y dyfodol.
“Mae hyn yn achosi niwed sylweddol i’n heconomi. Er bod gwaith Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y gostyngiad yn nifer y buddsoddiadau’n llai nag yn y DU gyfan, mae’n amser nawr i Lywodraeth y DU ddarparu’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau.”