Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiectau sy'n hybu bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd, yn gwella ansawdd dŵr ac yn lleihau effaith tanau gwyllt i elwa o fwy na £11 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae un-ar-ddeg o brosiectau ledled Cymru yn cwblhau eu cynlluniau i dderbyn cyllid fel rhan o'r camau cyntaf o brosiectau ar raddfa fwy sy'n cael eu cefnogi o dan gynllun grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru.

Fel rhan o Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin), bydd y Gweinidog Lesley Griffiths yn cyfarfod â phobl ifanc sydd wedi bod ar streic dros y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â siarad mewn digwyddiad gyda WWF Cymru ac RSPB Cymru yn y Senedd.

Mae'r prosiectau sy'n cael eu hariannu yn cael eu datgelu i ddangos yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r amgylchedd a'r manteision all ddod yn ei sgîl i bobl a chymunedau ledled Cymru. 
Gobeithio y bydd buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd yn gwella'r amgylchedd gwledig a threfol, yn ogystal â chefnogi datblygiad rhwydweithiau ecolegol cydnerth. 

Bydd y grantiau i gefnogi gwelliannau i'r amgylchedd sy'n gysylltiedig â gwella llesiant hefyd yn elwa o dros £2.2 miliwn o arian cyfatebol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau rhwng £500,000 a £2.8 miliwn am uchafswm o dair blynedd.
Dyma rai o'r prosiectau fydd yn cael arian:

  • prosiect sy'n anelu at atal a gwyrdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu cydnerthedd yr ecosystem yn Ne-ddwyrain Cymru. 
  • prosiect i wella y seilwaith gwyrdd a  phlannu coed yn strwythurol, i leihau effaith llygredd sŵn ac aer o draffig trwm yn Wrecsam i ofalu am eu mannau gwyrdd.
  • bydd prosiect yng Nghronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen yn creu canolfan iechyd a lles, gan ail-gysylltu pobl gyda dŵr a'r amgylchedd, tra'n cynnal, diogelu a gwella gwerth ecolegol y safle.
  • prosiect sy'n anelu at wneud gwahaniaeth hirdymor, cynaliadwy i adfer natur drwy gydgysylltu a galluogi gweithredu doeth ar y cyd wedi'i sbarduno gan dystiolaeth.
  • prosiect fydd yn adfer rhwydwaith o ddolydd ac yn cysylltu'n uniongyrchol gyda 20,000 o bobl, wedi'i gyflawni trwy dair rhaglen atodol sy'n cysylltu pobl gyda dolydd lleol, gwella'r dulliau o reoli a sgiliau a gadael gwaddol gwerthfawr o adnoddau at y dyfodol.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Prif Chwip Jane Hutt yng Ngŵyl y Gelli y byddai prosiect ledled Cymru yn cynyddu llesiant pobl, bioamrywiaeth a'r amgylchedd, gan defnyddio tri pecyn gwaith cysylltiedig, yn elwa o'r £996,999 fel rhan o'r cynllun grant. 

Bydd rhagor o brosiectau sydd i elwa o'r cyllid i gael eu datgelu yn y dyfodol agos.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd o'n hamgylch ledled Cymru. Yn ogystal â'r manteision ecolegol a bioamrywiaeth, bydd y gwaith hefyd yn gwella lles meddyliol a chorfforol cyffredinol cymunedau sy'n gallu eu mwynhau. 
"Trwy'r rhwydweithiau gwirfoddoli a rhaglenni partneriaeth, gall gymunedau gael effaith uniongyrchol ar eu hamgylchedd lleol, gan gymryd cyfrifoldeb a gwella mannau gwyrdd a'r adnoddau naturiol o'u hamgylch.
"Bydd y buddsoddiad hwn mewn seilwaith gwyrdd yn cael ei deimlo gan sawl cenhedlaeth i ddod ac mae'n rhan o'n hymrwymiad i gefnogi'r amgylchedd ym mhob ffordd y gallwn. Mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i gefnogi bioamrywiaeth a phrosiectau amgylcheddol fel y gallant fod yn gynaliadwy a blodeuo yn y dyfodol.