Mae tri phrosiect a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau yng Nghonwy wedi cael cyfran o fwy na £21,000 o gyllid gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl RWE Innogy UK.
Bydd Canolfan Cyngor ar Bopeth Cylch Conwy yn cael £9,769 ar gyfer prosiect 'Cyngor a Gwybodaeth Gartref'. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr achosion i ymweld â thrigolion nad ydynt yn gallu cyrraedd y swyddfeydd.
Mae prosiect tebyg a gafodd arian o'r gronfa yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Abergele a Phensarn. Bydd Canolfan Cyngor ar Bopeth Cylch Conwy bellach yn mynd ati i ymestyn y gwasanaeth i gymunedau Pentre Mawr, Towyn a Bae Cinmel.
Mae Deafblindness Cymru wedi cael £8,873 ar gyfer prosiect a fydd yn ceisio datrys materion cymdeithasol yn ymwneud â bod yn fyddar a dall. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi Gwasanaeth Allgymorth Cymunedol o ansawdd uchel. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac wedi'i deilwra i oedolion o bob oed sydd wedi colli eu clyw a'u golwg neu sydd â nam ar eu clyw a'u golwg, a'u teuluoedd, yn holl wardiau cymwys RWE.
Bydd y prosiect Book of You hefyd yn elwa ar gyllid o £2,500 i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn Hyrwyddwyr Hel Atgofion. Hynny er mwyn darparu gweithgareddau hel atgofion i bobl â dementia yn ardal cronfa gymunedol RWE drwy ddefnyddio system hanes bywyd amlgyfrwng Book of You.
Mae grwpiau cymunedol neu wirfoddol eraill, ynghyd ag elusennau a chynghorau tref a chymuned yng Nghonwy, yn cael eu hannog i wneud cais i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau'r Rhyl. Mae'r gronfa'n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru ac yn darparu grantiau o rhwng £2,000 a £10,000.
Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
"Rwy'n falch y bydd y prosiectau pwysig hyn yn rhannu cyllid o dros £21,000.
"Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w cymunedau, gan helpu pobl i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd, helpu eraill a gwella bywydau.
"Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl RWE Innogy UK yn cefnogi prosiectau sydd wrth wraidd y gymuned leol. Hoffwn annog pob grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid i ddysgu mwy am y cynllun."
Dywedodd Katy Woodington, uwch-swyddog buddsoddi cymunedol ar gyfer RWE Innogy UK:
"Mae'n dda gweld bod y buddsoddiadau cymunedol o Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau'r Rhyl yn helpu i gynnal a gwella gwasanaethau lleol drwy ariannu prosiectau a fyddai, fel arall, heb gael eu rhoi ar waith.
"Mae'n arbennig o galonogol gweld bod y prosiectau hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr; sydd felly'n gwella sgiliau'r gymuned yn ogystal â chefnogi'r elusen.
Os hoffai eich grŵp neu brosiect cymunedol chi ddysgu mwy ynghylch sut i wneud cais am gyllid, ewch i wefan Gwastadeddau'r Rhyl i gael rhagor o wybodaeth.