Neidio i'r prif gynnwy

Mae cymorth ariannol o bron £2.4m ar gyfer prosiectau cymunedol ledled Cymru wedi'i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cynnig cyllid i sefydliadau er mwyn sicrhau bod prosiectau a arweinir gan y gymuned yn gynaliadwy.

Mae pob prosiect sy'n cael ei ariannu yn aml yn ymwneud â gwella cyfleusterau cymunedol sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ac sy'n dod â phobl at ei gilydd.  

Ers i'r rhaglen ddechrau yn 2015, mae wedi rhoi cymorth ariannol i 121 o brosiectau ym mhob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Cyfanswm y grantiau hyd yma yw £22.2 miliwn, a darperir grantiau ar ddwy lefel: grantiau bach o hyd at £25,000, a grantiau mwy o hyd at £250,000.  

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gyfle gwych, sy'n cynnig grantiau i brosiectau a arweinir gan y gymuned i wella cyfleusterau cymunedol sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ac y mae gwir eu hangen. Gall hynny gynnwys clybiau chwaraeon, canolfannau cymunedol, neuaddau pentref a mannau gwyrdd.

Rwy'n falch i gyhoeddi y bydd un ar bymtheg o brosiectau'n elwa ar gyfran o dros £2.3m o gyllid, gan ganiatáu i brosiectau gwerth £5.3 miliwn fynd rhagddynt.  

Mae modd gwneud cais am gymorth ariannol y rhaglen hon ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Rwy'n annog unrhyw un sy'n ymwneud â chyfleusterau lleol i gael rhagor o wybodaeth er mwyn gweld a allai'r cyllid hwn helpu eu cyfleusterau i ffynnu er budd i'w cymuned.

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Hil Cymru i'w helpu i ddatblygu canolfan ddiwylliannol yn Theatr y Grand Abertawe.  Gan weithio ar y cyd â 15 o sefydliadau yn y ddinas, maent yn bwriadu troi ardal nad yw'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn swyddfeydd a stiwdios a fydd hefyd yn cynnwys man i gynnal digwyddiadau digidol a diwylliannol. 

Dywedodd Ray Singh CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru:

Mae'r cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru i sefydlu 'Canolfan Ddiwylliannol a Digidol Bame' nid yn unig yn amserol, ond mae hefyd yn flaengar – o ran helpu pawb ym mhob ran o'r gymuned i ddod ynghyd a helpu i ddatblygu cymdeithas gydlynus yn Abertawe a thu hwnt.  

“Wrth i'r Ganolfan hon ffynnu, bydd Abertawe'n gallu sicrhau bod ei hethos fel Dinas Noddfa i bob Cenedl yn cael ei wireddu. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi gweithio ar y cyd i droi'r Ganolfan hon yn realiti.

Mae ceisiadau ar gyfer y cylch cyllido nesaf yn cael eu derbyn drwy gydol y flwyddyn. Chwiliwch am y ‘Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol’ ar y we.