Neidio i'r prif gynnwy

Mae chwe phrosiect cymunedol yng Nghonwy wedi cael hwb ar ôl derbyn cyfran o dros £43,000 o gyllid cymunedol gan Rhyl Flats, fferm wynt ar y môr o dan ofal Innogy Renewables UK Ltd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymhlith y prosiectau y disgwylir iddynt elwa ar yr arian fydd Cartrefi Conwy a fydd yn derbyn £10,000 tuag at estyn prosiect bancio amser sy’n cynorthwyo cymunedau i helpu ei gilydd drwy roi o’u hamser eu hunain.

Bydd GwE sy’n gorff lle bo Awdurdodau Lleol, sefydliadau academaidd ac ysgolion yn cydweithio â’i gilydd, hefyd yn derbyn £10,000 tuag at gynllun treialu Astudiaeth Ddarllen Ar-lein Gogledd Cymru. Nod yr astudiaeth yw helpu rhieni i helpu eu plant i ddysgu darllen a mesur y broses at ddibenion ymchwil academaidd.

Bydd yr elusen CAIS yn derbyn £9,922 tuag at brosiect Cynllun Garddio i Gyn-filwyr Newid Cam sy’n helpu cyn-filwyr â’u gwaith garddio ac yn helpu i gynnal a chadw gerddi cyhoeddus.

Bydd buddsoddiad o £6,070 yng nghynllun Gweithredu Cymunedol Abergele yn hwb i weithgareddau prosiect Men’s Shed Abergele sy’n hybu iechyd a lles drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac ymarferol yn enwedig ar ôl ymddeol.

Bydd Clwb Bowlio Hen Golwyn yn defnyddio’r swm o £5,000 a roddwyd iddynt hwy i greu cyfleusterau toiledau addas i bobl anabl ac i wella mynediad i adeilad y clwb drwy osod ramp pwrpasol. Bydd y gwelliannau hyn yn fodd i bawb yn ddiwahân fanteisio ar y cyfleusterau ac annog pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Bydd Clwb Pêl-droed Ieuenctid Llysfaen yn derbyn £2,119 i helpu tuag at gostau llogi cae dros y gaeaf er mwyn sicrhau bod plant yr ardal yn gallu chwarae pêl-droed.

Mae grwpiau gwirfoddol, elusennau, a chynghorau tref a chymuned eraill yng Nghonwy yn cael eu hannog i wneud cais i gronfa gymunedol fferm wynt ar y môr Rhyl Flats. Mae’r gronfa, sy’n rhoi grantiau gwerth rhwng £2,000 a £10,000, yn cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n bosibl defnyddio’r grantiau ar gyfer prosiectau cyfalaf neu refeniw sy’n:

  • cryfhau ysbryd y gymuned ac yn annog pobl i gymryd rhan ynddi
  • helpu i greu cymunedau llewyrchus, iach a chynaliadwy
  • gwella ansawdd bywyd trigolion lleol.


Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Rydw i’n falch gweld y bydd yr arian yma yn cefnogi ystod eang o brosiectau a fydd yn chwarae rôl bwysig wrth wneud lles i’r gymuned.

“Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu pobl i ddatblygu sgiliau, hybu cynhwysiant cymdeithasol, cefnogi iechyd a lles a gwella bywydau.

“Mae cronfa gymunedol Rhyl Flats sef fferm wynt ar y môr yn cefnogi prosiectau sy’n gwbl ganolog i’r gymuned leol. Mae’n gyfle da i grwpiau lleol ddatblygu eu syniadau a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gwneud cais am arian i fynd ati i ddysgu mwy am y cynllun."

Dywedodd Katy Woodington, uwch swyddog buddsoddiadau cymunedol Innogy Renewables UK Ltd:

“Mae’n dda gweld buddsoddiadau cymunedol fferm wynt ar y môr Rhyl Flats yn helpu unwaith eto i gynnal a gwella gwasanaethau lleol sydd mor amrywiol ac, yn aml, mor flaengar. Ers 2009 mae’r fferm wynt wedi cyfrannu dros £600,000 o gyllid i brosiectau cymunedol lleol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i ddarparu cyllid o’r fath lle mae gwir angen amdano a lle caiff ei werthfawrogi gan y gymuned leol am weddill oes y safle.”

Dywedodd Linda Tavernor, Ymddiriedolwr grŵp Gweithredu Cymunedol Abergele:

“Rydyn ni’n falch bod ein cais am arian gan Gronfa Gymunedol Rhyl Flats wedi bod yn llwyddiannus.

“Bydd y grant yn ein galluogi ni i godi sied fawr lle gall grŵp y Men’s Shed gwrdd er mwyn cymdeithasu a hefyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel garddio a gwaith coed. Mae’r dynion wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd yn ein lolfa goffi ers misoedd lawer ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael eu lle eu hunain er mwyn mynd ati yn yr ardd i dyfu cynnyrch all gael ei gynnig i’r banc bwyd.”