Bydd prosiectau i wella mynediad at barciau, datblygu llwybrau cerdded a beicio a hybu bioamrywiaeth yn elwa ar dros £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd 20 prosiect ledled Cymru yn derbyn cyllid fel rhan o gynllun y Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru. Mae'r cyllid yn cael ei gyhoeddi wrth i Gymru ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Fiolegol (22 Mai).
Yn bennaf mae'r grantiau'n cefnogi datblygiadau sy'n gwneud gwelliannau yn ac o amgylch y mannau lle mae pobl yn byw, gan ddarparu manteision i bobl, busnesau a chymunedau.
Mae'r cynllun cyllid yn cynnwys £1.1 miliwn o grantiau cyfalaf a refeniw a thros £200,000 o arian cyfatebol gan ymgeiswyr. Bydd grantiau refeniw yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosiectau traws-sector strategol newydd, gyda chyllid o hyd at £40,000 ar gael am gyfnod o hyd at 12 mis.
Bydd grantiau cyfalaf yn cefnogi seilwaith amgylcheddol neu hamdden ar raddfa fach. Uchafswm y cyllid ar gael ar gyfer grantiau cyfalaf fydd £160,000, a bydd yn cynnwys 80% o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gyda'r gweddill yn dod drwy arian cyfatebol gan yr ymgeisydd arweiniol.
Bydd prosiectau sy'n derbyn cymorth o dan y cynllun grantiau cyfalaf yn cynnwys gwella cyfleusterau lleol a mynediad atynt, ac annog y gymuned i'w defnyddio. Bydd y grantiau ar gael am hyd at dair blynedd.
Dyma rai o'r prosiectau fydd yn cael arian:
- llwybrau cerdded a beicio ledled Rhondda Fawr a Fach gyda £128,000 o gymorth a £32,000 o arian cyfatebol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- ailddatblygu pafiliwn bowlio yn Grangetown i greu lle awyr agored bioamrywiol, amgylcheddol gyfoethog a chynaliadwy gyda £128,000 o gymorth a £27,042 o arian cyfatebol gan Brifysgol Caerdydd.
- mynediad newydd, mwy a gwell i'r Ddôl Fawr, Parc yr Esgob, Abergwili gyda £100,156 o gymorth a £25,039 o arian cyfatebol gan Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn.
- bydd Back from the Brink Cymru yn datblygu prosiect partneriaeth i adfer grwpiau o rywogaethau sydd o dan fygythiad mewn tirweddau strategol ledled Cymru gyda £39,764 o gymorth a £22,421 o arian cyfatebol.
- nod prosiect Rhwydwaith Iechyd Awyr Agored Biosffer Dyfi yw adeiladu rhwydwaith o ymarferwyr iechyd, amgylcheddol a thwristiaeth yn ardal Biosffer Dyfi gyda £39,955 o gymorth.
- bydd y prosiect 'Parciau i Bawb' yn dod â chymunedau lleol, y trydydd sector a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy at ei gilydd i drafod sut gall eu Parciau Chwarae fod ar gael i bawb, gyda £40,000 o gymorth.
- bydd prosiect sy'n creu seilwaith llwybr pren 600 metr o hyd yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi yng ngogledd Sir Benfro a de Ceredigion yn elwa ar £77,328 o gymorth a £19,332 o arian cyfatebol gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Bydd prosiectau eraill a fydd yn elwa ar gyllid grant fel rhan o'r cynllun yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Bydd y grantiau hyn yn gwneud gwahaniaeth nid yn unig i amgylchedd a bioamrywiaeth y tir o'n cwmpas, ond hefyd i lesiant ac iechyd meddwl y cymunedau a'r busnesau sy'n eu defnyddio a'u mwynhau.
"Mae angen inni sicrhau y gall pobl gael mynediad at yr adnoddau gwych sydd o'u cwmpas, a bydd y grantiau hyn yn gwneud hynny'n haws nag erioed.
"Yn ogystal â gwella seilwaith a mynediad at gyfleusterau lleol, bydd y prosiectau hyn hefyd yn darparu amrediad eang o fanteision amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol drwy gefnogi datblygiadau cydweithredol newydd.
"Mae'n bwysig eich bod yn cadw a gwarchod yr amgylchedd o'n cwmpas er budd cenedlaethau'r dyfodol."