Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £13.4m ar gyfer prosiect yng Ngwent

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ac yntau'n cael ei arwain gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, y prosiect yw'r diweddaraf i gael cyllid o gronfa gan Lywodraeth Cymru gwerth £100m i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd modd eu cyflwyno ledled Cymru yn y pen draw. Gwnaeth Mr Gething y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Blant Serennu yn High Cross. 

Tra bu yno gwelodd enghreifftiau o gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, i gefnogi plant ag anghenion cymhleth gan gynnwys ASD.

Esboniodd y bydd y cyllid, dros ddwy flynedd, yn helpu i gyflymu prosiectau fel y rhain sy'n cefnogi camau gweithredu allweddol o gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach. 

Mae dwy ran i brosiect Gwent.

  • Datblygu gwasanaethau newydd sy'n canolbwyntio ar hybu llesiant ac atal salwch ar lefel gymunedol i leihau'r baich ar ysbytai.
  • Integreiddio gwell rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau profiad di-dor i gleifion.

Bydd y gwaith trawsnewid yn ail-greu’r tirlun ar draws gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i ddarparu mynediad gwell at wasanaethau gwell yn nes at y cartref. Sefydlu cynllun rhyddhau o'r ysbyty 24/7, a fydd yn golygu y bydd pobl yn gallu mynd adref yn gyflymach, gyda'r pecyn gofal cywir yn ei le, a sefydlu model gofal yng Nghaerffili, fel peilot cychwynnol. Bydd hyn yn golygu y gall pobl gael mynediad at ystod o wasanaethau newydd yn eu cymuned yn hytrach na gorfod dibynnu ar wasanaethau Ymarferwyr Cyffredinol.

Dywedodd Mr Gething: 

“Mae galw cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac os ydyn ni am sicrhau eu bod yn addas i'r dyfodol mae angen inni edrych ar ffyrdd gyfan gwbl newydd o'u darparu. 

Bydd hyn yn gofyn am integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well er mwyn dibynnu'n llai ar ysbytai a darparu gofal yn nes at y cartref. Bydd y Gronfa Trawsnewid yn cael ei defnyddio i ariannu nifer fach o brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf wrth ddatblygu a darparu modelau gofal newydd, ac sydd â'r potensial i gael eu hehangu i'w defnyddio ar draws Cymru.


Dywedodd Phil Robson, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol : 

“Bydd y cyllid ychwanegol yn darparu adnoddau y mae galw mawr amdanynt i ar draws Gwent i symud ein cynlluniau trawsnewid yn gyflym. Rydyn ni'n gweithio fel partneriaeth, ar draws iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector, i ddarparu cynllun uchelgeisiol iawn ac rydyn ni’n falch bod gan y Gweinidog hyder ynddon ni fel rhanbarth i gyflawni.”