Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect yn y Gogledd yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor i bobl ag anableddau dysgu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn rhoi £1.69m dros gyfnod o ddwy flynedd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o weithio a allai gael eu defnyddio ledled Cymru yn y pen draw.  

Daw'r cyllid o'r Gronfa Trawsnewid sy’n cefnogi camau allweddol cynllun Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. 

Drwy integreiddio'r gwasanaethau iechyd, y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector, yn fwy effeithiol, bydd y prosiect yn helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw'n fwy annibynnol a chael y gofal y mae ei angen arnynt yn nes at eu cartrefi. 

Bwriad y prosiect yw cyflawni hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol, gan sicrhau bod llai o ddyblygu mewn systemau cofnodi, fel nad yw bobl yn gorfod dweud rhywbeth fwy nag unwaith;
  • Datblygu'r gweithlu mewn modd sy'n sicrhau bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn ehangach yn ymwybodol o faterion sy'n ymwneud ag anableddau ymysg. O wneud hynny, dylai fod yn bosibl lleihau'r pwysau ar wasanaethau arbenigol ym maes anableddau dysgu yn y dyfodol.
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol i helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw’n fwy annibynnol o ddydd i ddydd.
  • Sicrhau newidiadau mewn cymuned a diwylliant, gan gynyddu nifer y bobl sydd mewn swyddi sy'n talu cyflog, sy'n cael mynediad at hyfforddiant, ac sy'n gwirfoddoli. Mae angen gweithredu dulliau mwy effeithiol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.

Dywedodd Mr Gething: 

“Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn disgrifio sut y byddwn ni'n trawsnewid ein ffordd o ddarparu gofal mewn modd sy’n ei gwneud yn gynaliadwy yn y dyfodol. 

Bydd angen integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol er mwyn dibynnu llai ar ysbytai, gan ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Rydyn ni'n defnyddio'r Gronfa Trawsnewid i ariannu nifer bach o brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran datblygu a gweithredu modelau gofal newydd sydd â'r potensial i gael eu defnyddio ledled Cymru.

Nod y prosiect hwn ydy sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu er myn eu helpu i fyw’n fwy annibynnol. Y gobaith wedyn fydd cyflwyno'r syniadau newydd hyn ym mhob rhan o Gymru er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion a lleihau'r pwysau ar rannau o'r GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd: 

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael gwybod bod ein cais am gyllid wedi llwyddo. Mae'n uchelgais mawr yma yn y Gogledd ein bod ni’n gwella’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a hynny drwy ganolbwyntio ar roi pobl yn gyntaf a threfnu ein gwasanaethau’n seiliedig ar anghenion y bobl sy'n byw yma.

“Mewn rhanbarth fel hwn, mae'n hanfodol rhannu adnoddau, profiadau, a sgiliau. Rydyn ni i gyd yn gweithio tuag at yr un nod, ac mae pob sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau bod y breuddwyd hwn yn cael ei wireddu.

“Cafodd yr angen i drawsnewid gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu ei nodi fel un o'r prif feysydd gwaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r cyllid hwn i gryfhau a gwella ein gwasanaethau gwerthfawr presennol ymhellach.”