Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James, i ymweld â'r Prosiect Tai yn Gyntaf a rhai o'i weithwyr cymorth hanfodol ar Ynys Môn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Tai yn Gyntaf yn gweithredu drwy'r Wallich, yr elusen digartrefedd a chysgu ar y stryd mwyaf yng Nghymru.

Mae'r Wallich yn gweithio gyda mwy na 7,000 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn a'i wasanaeth ar Ynys Môn yw'r prosiect Tai yn Gyntaf sy'n rhedeg hiraf yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn helpu i gefnogi cael pobl oddi ar y stryd ac i'w llety eu hunain, gan gynnal eu tenantiaethau yn y tymor hir a chreu cyfleoedd i bobl.

Mae'r cymorth yn ymestyn i bobl sy'n cysgu allan, cysgu ar soffa, gadael cyfleusterau iechyd meddwl diogel, triniaeth camddefnyddio sylweddau neu garchar a phobl sydd wedi eu rhoi mewn llety dros dro.

Mae'r prosiect yn derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Ynys Môn drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae pawb yn haeddu cael rhywle i'w alw'n gartref, a dyna pam rydyn ni wedi nodi y cynllun radical ac uchelgeisiol yma yng Nghymru i atal a rhoi diwedd ar bob math o ddigartrefedd.

Mae sylwi ar y risgiau yn gynnar a gweithredu yn rhan hanfodol o gyflawni hyn, ac mae prosiectau fel Tai yn Gyntaf Ynys Môn yn gwneud gwahaniaeth go iawn a chefnogi ein cynlluniau.

Mae Ynys Môn yn nodi yn gyson niferoedd isel o bobl yn cysgu allan ac mae'r ganolfan galw heibio yn y sir nid yn unig yn darparu gwasanaethau hanfodol ond hefyd obaith ar gyfer y dyfodol.

Meddai Rheolwr Ardal Ceredigion, Gogledd-orllewin a Chanolbarth Cymru, Ceri Thomas:

Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd yr amser i gysylltu â'n timau ar Ynys Môn.

Mae nhw'n gweithio'n ddiflino ar yr ynys i helpu pobl i mewn i gartrefi a'u cadw yn eu cartrefi. Roeddem yn falch ei bod hefyd yn gallu siarad â defnyddiwr gwasanaeth yr ydym yn gefnogi a siarad am eurofiad o dai heb ddiogelwch a digartrefedd.

Gan fod llawer o'n gwasanaethau yn cael eu hariannu yn statudol, rhaid i ni barhau i gyfathrebu a gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaethau gorau posibl i bobl ledled Cymru.

Fe wnaeth y Wallich arloesi gwasanaeth Tai yn Gyntaf gwreiddiol Cymru ar Ynys Môn gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru a rydym yn gobeithio gweld cyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau arloesol ac effeithiol a fydd yn rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru am byth.