Mae Sharp Clinical Services (UK) Ltd yn ehangu ac yn buddsoddi £9.5m mewn Pencadlys Clinigol Ewropeaidd newydd yng Nghwm Rhymni.
Mae Sharp Clinical Services (UK) Ltd, sy’n darparu gwasanaethau treialu clinigol rhyngwladol, yn symud o’i ganolfan bresennol yng Nghrugywel gan nad oes digon o le yno mwyach. Mae’r cwmni’n buddsoddi i ailwampio a dodrefnu safle llawer mwy yn nhref Rhymni.
Fel hwb i’r buddsoddiad, mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £500,000 o gyllid busnes i sicrhau bod y cwmni’n ehangu yng Nghymru yn hytrach nag yng Nghanolbarth Lloegr, a oedd hefyd o dan ystyriaeth.
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Mae hwn yn brosiect ehangu mawr yn sector y gwyddorau bywyd yng Nghymru. Bydd cwmni gofal iechyd rhyngwladol mawr yn bwrw gwreiddiau yng Nghymru, gan feithrin ein henw da fel lleoliad da ar gyfer cwmnïau gwasanaethau fferyllol.
“Rwy’n falch iawn bod cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau bod y buddsoddiad mawr hwn yn cael ei wneud yng Nghymru gan greu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith da i bobl leol a dod â bywyd newydd i hen adeilad diwydiannol segur.”
Cartref presennol Sharp UK yng Nghrugywel yw canolfan adran gwasanaethau clinigol y Grŵp yn Ewrop lle cynhelir gwasanaethau treialu clinigol rhyngwladol ar gyfer cyflenwadau, creu cyffuriau, gweithgynhyrchu, pacio, dosbarthu a phecynnau masnachol.
Mae canolfan y cwmni ar hyn o bryd wedi’i rhannu rhwng dau adeilad ym Mharc Busnes Elvicta lle ceir 45,000 tr sg o le. Mae’r unedau nawr yn llawn ac nid oes lle i ehangu nac i gymryd rhagor o waith.
Ond gyda’r prosiect ehangu, bydd y cwmni’n gallu cystadlu am gontractau pacio clinigol a masnachol mawr â chwmnïau fferyllol mawr. Fel rhan gyntaf y prosiect, caiff cyfleuster 75,000 tr sg ei brynu a’i adnewyddu – rhan o adeilad 108,00 tr sg. ar safle deg erw a fydd â lle ynddo i ehangu eto yn y dyfodol ac i greu rhagor o swyddi.
Dywedodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James:
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnau i gefnogi’r Gwyddorau Bywyd yng Nghymru ac fel un o’n prif sectorau blaenoriaeth, rydyn ni’n awyddus i weld y maes pwysig hwn yn tyfu eto.
“Yng Nghymru, mae’r sector yn cyflogi tua 11,000 o bobl mewn rhagor na 360 o gwmnïau ac yn werth tua £2bn i economi Cymru. Rydym yn benderfynol o weld hwn yn cynyddu ac o feithrin sgiliau, galluoedd a chapasiti Cymru ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
“Mae’r prosiect yn newyddion da i’r sector, y gymuned leol ac i economi ehangach Cymru ac mae’n dangos sut mae diwydiannau gofal iechyd a biodechnoleg Cymru’n mynd o nerth i nerth.”
Dywedodd Frank Lis, Llywydd Sharp Clinical Services, am y datblygiad:
“Rydyn ni wastad wedi credu bod arbenigedd ein timau’n rhan hanfodol o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn caniatáu inni ehangu tîm Sharp yng Nghymru i helpu’r busnes, a hefyd i ehangu ein portffolio o wasanaethau clinigol i gwsmeriaid newydd.”
Mae Sharp Clinical Services (UK) Ltd yn rhan o adran Sharp Packaging Services UDG Healthcare plc, cwmni rhyngwladol blaenllaw sy’n darparu gwasanaethau clinigol, masnachol, cyfathrebu a phacio i’r diwydiant gofal iechyd. Mae’n cyflogi dros 7,000 o bobl mewn 23 o wledydd ac yn darparu gwasanaethau i fwy na 50 o wledydd.