Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiect gwerth £1.2m a gefnogir gan yr UE yn gwella sgiliau a rhagolygon swyddi pobl o leiafrifoedd ethnig a chymunedau mudol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y prosiect Sicrhau Newid trwy Gyflogaeth (ACE) ei gefnogi gan £950,000 o gronfeydd yr UE a ddarperir gan yr elusen, Sova Cymru, dros y tair blynedd nesaf.

Bydd tua 400 o bobl yn y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De yn elwa ar  raglenni hyfforddiant a chyfleoedd i ennill cymwysterau a chymryd rhan mewn profiad gwaith neu wirfoddoli.

Dywedodd Mark Drakeford:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bron £1 m o gyllid yr UE ar gyfer prosiect ACE Sova Cymru. Bydd yn darparu cyfleoedd pwysig i lawer o bobl sydd mewn perygl o gael eu hallgáu, ac fe fydd yn helpu i ddatblygu cymdeithas gryfach a mwy cynhwysol yng Nghymru. Dyma enghraifft arall o'r cyfraniad y mae cronfeydd yr UE yn ei wneud at wella sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddiad enfawr mewn miloedd o brentisiaethau a hyfforddeiaethau."

Drwy fentora un i un a chymorth a ddarperir gan wirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi o gymunedau lleol, bydd prosiect ACE yn gwella llythrennedd, rhifedd a sgiliau personol yn arbennig ymhlith pobl y mae diweithdra hirdymor, sgiliau isel, anableddau a chyfrifoldebau gofal neu ofal plant yn effeithio arnynt.

Bydd cefnogaeth arbenigol i chwilio am waith a chymorth gyda thrafnidiaeth hefyd ar gael drwy'r cynllun. Bydd ACE yn helpu mwy na 100 o bobl i mewn i gyflogaeth, yn cynhyrchu tua 180 cymwysterau newydd, ac yn creu bron 100 o gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith. 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sova, Sophie Wilson:

"Mae Sova wrth ei fodd yn darparu’r prosiect Sicrhau Newid trwy Gyflogaeth (ACE). Gwyddom pa mor bwysig yw darparu cymorth arbenigol i bobl sy'n wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu hatal rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Rydym yn credu y gall pobl o leiafrifoedd ethnig a chymunedau mudol yng Nghymru lwyddo a ffynnu trwy gael y cymorth priodol, a bydd ein tîm o staff ymroddedig a gwirfoddolwyr wrth law i sicrhau bod hynny'n digwydd."