Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i sicrhau ei bod yn ymgysylltu â'r holl gymunedau yng Nghymru, ac yn gwrando arnynt.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cafodd yr ymgyrch ei chynnal yn 2006 a 2007 gan Gymdeithas Saheli Cymru Gyfan (sef y Sefydliad Henna erbyn hyn) gan sefydlu dull gwerthfawr o gyfathrebu rhwng y rheini sy'n llunio polisïau â'r gymuned Fwslimaidd sy'n byw yng Nghyrmu.
Cynhaliwyd yr ymgyrch er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth berthnasol / gywir, yn mynegi eu pryderon ac yn codi materion. Gall hefyd helpu unigolion i fagu hyder i gyfrannu'n gadarnhaol at fywyd y gymuned.