Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths yn annog ffermwyr i wneud cais am gymorth drwy brosiect newydd i wella iechyd buchesi a hyrwyddo cynaliadwyedd y diwydiant llaeth yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r prosiect newydd HerdAdvance, sy'n cael ei lansio yn y Sioe Laeth, yn rhan o Raglen Gwella Llaeth Llywodraeth Cymru, gwerth £6.5 miliwn, wedi'i ariannu  drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Bydd cymorth ar gael i ffermwyr llaeth wella perfformiad eu busnes drwy sicrhau gwell iechyd a lles i wartheg, drwy weithio gyda'u milfeddyg i gynllunio camau i wella iechyd gwartheg. 

Bydd y prosiect newydd, wedi'i ddarparu gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), yn rhoi cymorth ariannol a thechnegol ar reoli iechyd buchesi a rheoli clefydau. Gan bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn pum mis, bydd yn gymorth amserol, gan ddarparu ymyraethau i wella proffidioldeb a pherfformiad y diwydiant yn ystod cyfnod hollbwysig.

Mae'n bosibl i ffermwyr Llaeth gyflwyno cais mynegi diddordeb yng nghyfnod cyntaf y ceisiadau tan 30 Tachwedd. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn agor y Sioe Laeth yn swyddogol heddiw ac yn cerdded o amgylch y Sioe.  Yn y Sioe, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyflwyno gwobr flynyddol yr FUW 'Cyfraniad Neilltuol i'r Diwydiant Llaeth yng Nghymru' a gwobrau NFU Cymru/ NFU Mutual Cymru 'Stocmon Buches Odro y Flwyddyn'.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Golyga Brexit bod gennym y cyfle i wneud pethau'n wahanol ond bydd sawl her hefyd. 

"Fel Llywodraeth, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r diwydiant i baratoi ar gyfer Brexit a'r heriau a ddaw.   Dyw'r angen i baratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit erioed wedi bod yn bwysicach.

"Yn gynharach eleni cyhoeddais £6.5 miliwn ar gyfer AHDB Llaeth i ddarparu ein Rhaglen Gwella Llaeth, sy'n anelu at wella proffidioldeb, cynaliadwyedd a chadernid y diwydiant.  Heddiw caiff cam cyntaf y rhaglen ei lansio a bydd ffermwyr llaeth bellach yn gallu gwneud cais am gymorth i helpu i wella iechyd eu buchesi a phroffidioldeb eu busnesau.

"Dwi'n annog ffermwyr llaeth i ddefnyddio'r cymorth gwerthfawr hwn ac i gyflwyno eu datganiadau o ddiddordeb erbyn 30 Tachwedd.

"Dwi'n edrych ymlaen at agor y sioe laeth eleni ac yn hyderus bod gan y diwydiant llaeth yng Nghymru ddyfodol llewyrchus iawn." 

Wrth groesawu'r prosiect HerdAdvance newydd, dywedodd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: 

"Mae sicrhau bod iechyd a lles anifeiliaid cystal â phosibl yn allweddol i lwyddiant busnesau da byw, ac yn un o brif amcanion y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghymru.  Bydd menter AHDB yn helpu ffermwyr llaeth a'u milfeddyg i gynnwys cynllunio iechyd gwartheg yn y busnes.  Hoffwn annog pob ffermwr llaeth yng Nghymru i ystyried, gyda'u milfeddyg, a oes modd iddynt ddefnyddio'r cyfle newydd pwysig hwn".