Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r prosiect Lleisiwr yn gyfrifol am ddatblygu technoleg sy'n creu lleisiau synthetig personol i siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad oherwydd clefydau fel canser y llwnc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r prosiect Lleisiwr, sydd wedi derbyn £20,000 o gronfa grant Cymraeg 2050, yn gyfrifol am ddatblygu technoleg sy'n creu lleisiau synthetig personol i siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad oherwydd clefydau fel canser y llwnc. Mae'r gwaith yn cael ei ddatblygu gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac unwaith y bydd yn barod caiff ei gyflwyno ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, dim ond lleisiau synthetig Saesneg eu cyfrwng sydd ar gael i gleifion sydd wedi colli eu llais a gall hyn effeithio ar eu gallu i gyfathrebu â ffrindiau ac aelodau'r teulu maen nhw wedi siarad Cymraeg â nhw ar hyd eu hoes.

Mae'r grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'n cynnig grantiau bychan hyd at £20,000 yr un tuag at brosiectau arloesol, tymor byr gyda'r nod o gynyddu defnydd pobl o'r iaith o ddydd i ddydd ac i hybu technoleg sy'n cefnogi'r defnydd a wneir o'r Gymraeg. Cymeradwywyd chwech ar hugain o brosiectau yn ystod y rownd ariannu gyntaf a bydd yr ail rownd ariannu yn agor i ymgeiswyr yn hwyrach eleni.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae'r ymweliad heddiw wedi bod yn unig yn addysgiadol ond yn hynod o ysbrydoledig. Mae fy ngyrfa wedi'i seilio ar fy ngallu i siarad felly mae'n bosib mod i'n fwy ymwybodol na llawer pa mor frawychus fyddai golli'r gallu hwnnw oherwydd salwch. Colled hyd yn oed fwy fyddai colli'r gallu i siarad â fy nheulu a'm ffrindiau yn yr iaith ry'n ni wedi arfer ei siarad bob dydd. Rydw i wrth fy modd felly fod Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio ar y prosiect Lleisiau Cymraeg ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y prosiect.”

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr:

“Roedd hi’n bleser cael croesau Gweinidog y Gymraeg atom ni i edrych ar y prosiect hwn. Mae’r gwaith cyffrous yma yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio ein technoleg siarad Cymraeg mewn sefyllfa ymarferol er budd cleifion. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ymateb pobl sy’n cael eu cyfeirio atom ni gan y Gwasanaeth Iechyd, ac at ddatblygu’r dechnoleg yma ymhellach yn y dyfodol.”