Heddiw, ar ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect 'gwirioneddol arwyddocaol' sy'n ceisio gwella'r ffordd y caiff themâu yn ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eu haddysgu ar draws pob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod yr Athro Charlotte Williams OBE wedi derbyn gwahoddiad i arwain gweithgor newydd - Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y cwricwlwm newydd.
Heddiw, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau aelodaeth y gweithgor ac wedi nodi amcanion a cherrig milltir allweddol y grŵp.
Mae'r grŵp yn cynnwys:
- Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd
- Angela Heald, pennaeth Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff, Abertawe
- Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De
- Humie Webbe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
- Dr Marian Gwyn o Brifysgol Bangor
- Yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe
- Nia Williams o Ysgol y Preseli
- Nicky Hagendyk, Arweinydd y Dyniaethau, Consortia EAS
- Rajvi Glasbrook Griffiths, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd High Cross, Tŷ-du
- Dr Shehla Khan, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae'r cylch gorchwyl a gyhoeddwyd heddiw yn nodi nodau ac amcanion y grŵp.
Bydd y grŵp yn adolygu'r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd ar themâu sy'n ymwneud â chymunedau BAME, eu cyfraniadau a'u profiadau; cynghori ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd; ac adolygu ac adrodd ar ddatblygiad proffesiynol i gefnogi addysgu yn y meysydd dysgu hyn.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
Mae'n bleser gen i gyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.
Bydd y grŵp yn gweithio yn ysbryd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gan ystyried yr egwyddorion a'r cyfeiriad strategol ac eang sydd eu hangen a sicrhau'r hyn sy'n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys ar draws pob un o'r meysydd dysgu a phrofiad.
Rwy'n disgwyl i'r grŵp adrodd ar eu canfyddiadau cychwynnol, gan gynnwys argymhellion am adnoddau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, erbyn canol yr hydref, gydag adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2021.
Rwyf hefyd yn falch o nodi bod aelodau'r Gweithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE, yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau ac arbenigeddau.
Mae'r Grŵp mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith, ac i gyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu pwysig iawn hwn.
Ychwanegodd yr Athro Charlotte Williams:
Mae hwn yn brosiect gwirioneddol arwyddocaol.
Ein gweledigaeth yw y dylai pob disgybl, fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol.
Byddai ein gweledigaeth yn golygu bod pob athro yng Nghymru, ym mhob maes dysgu a phrofiad, yn meddu ar y gallu a’r adnoddau i fodloni'r disgwyliadau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm ac wrth addysgu.