Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi menter £13.5m a fydd yn cael cymorth gan yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan arweiniad Prifysgol Abertawe, bydd AgorIP yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynrychiolwyr o ddiwydiant ar draws y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De i droi ymchwil arloesol yn gynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.

Mae’r prosiect yn cael £6.7m gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arian hwn yn cynnwys cymorth o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid gan Brifysgol Abertawe. 

Wrth siarad â mwy na 150 o gynrychiolwyr mewn digwyddiad a oedd yn cael ei gynnal yn stadiwm SWALEC, Caerdydd, i nodi cynnydd a llwyddiannau cronfeydd yr UE yng Nghymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: 

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i drawsnewid ymchwil, a bydd potensial hefyd i ddatblygu cyfleoedd masnacheiddio mewn prifysgolion a byrddau iechyd. 

“Mae hon yn enghraifft bositif arall o’r ffordd mae cronfeydd yr UE yn helpu i ddatblygu cysyniadau ac ymchwil newydd i dyfu ein heconomi wybodaeth, a sicrhau bod Cymru’n cystadlu ar lwyfan fyd-eang.  

“Bydd y sicrwydd o gyllid sydd wedi cael ei ymestyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer pob cynllun sy’n cael ei gymeradwyo cyn i’r DU adael yr UE – fel yr oedd ein Prif Weinidog wedi galw amdano – yn rhoi cysondeb i gymunedau, busnesau a buddsoddwyr yng Nghymru wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.”

Fel rhan o’r prosiect AgorIP, bydd arbenigwyr o’r sector masnachol yn helpu i feithrin syniadau newydd drwy fanteisio ar gyfleoedd i arbrofi ac ymgymryd â datblygiadau diwydiannol. Bydd hyn yn dangos prawf o gysyniad i’r rheini a allai fod yn ystyried darparu cyllid, a bydd yn denu rhagor o fuddsoddiad mewn ymchwil.  

Cafodd peilot o AgorIP ei gynnal drwy prosiect  A4B Llywodraeth Cymru. Roedd y prosiect hwnnw’n cael cymorth gan raglenni cyllid yr UE ar gyfer 2007-2013. Cafodd AgorIP £4m o gyllid gan y sector preifat i greu chwe rhaglen ddeillio o fewn blwyddyn. Bydd y prosiect hwn yn datblygu ar y cam cyntaf, ac yn cyflwyno cyfleoedd ymchwil nad oes unrhyw un wedi elwa arnynt cyn hyn. Bydd cyfle i droi syniadau arloesol yn gynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y farchnad fasnachol.  

Dywedodd yr Athro Marc Clement, Deon Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe: 

“Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd o gael arwain ar y prosiect pwysig hwn, sy’n cysylltu academyddion ac arbenigwyr busnes er mwyn meddwl am syniadau arloesol a ffyrdd newydd o wneud pethau. Rwy’n hyderus y bydd y canlyniadau o fudd mawr i economi Cymru. 

“Fel prifysgol, rydyn ni’n falch iawn o’n cysylltiadau â diwydiant ac mae hon yn enghraifft arall o sut gall gwahanol sectorau weithio gyda’i gilydd. Dw i’n falch bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r cymorth ariannol hwn drwy gyllid yr UE.”

Ers 2007, mae cronfeydd strwythurol yr UE wedi helpu bron 73,000 o unigolion i gael gwaith; wedi helpu mwy na 234,000 o unigolion i ennill cymwysterau; ac wedi creu bron 12,000 o fusnesau a thua 37,000 o swyddi.

Dywedodd yr Athro Drakeford hefyd: 

“Am fwy na degawd, mae cyllid yr UE wedi helpu i bennu ffawd economaidd Cymru ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer llewyrch economaidd mwy cynaliadwy. Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr mewn lefelau cyflogaeth a sgiliau diolch i’r cyllid hwn yn ogystal â buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi.”