Neidio i'r prif gynnwy

Mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn prosiect adsefydlu yn Sir y Fflint yn helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn arbed arian i'r GIG

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cam i fyny, Cam i lawr yn darparu gwelyau arhosiad byr i gefnogi pobl sy'n dod allan o'r ysbyty sy'n feddygol iach, ond nad ydynt eto’n  barod i fynd adref, a lle oes pecyn gofal cartref wedi’i sefydlu eto. Hefyd defnyddir y gwelyau i helpu pobl yn y gymuned sy'n mynd yn sâl i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty a lleoliadau hirdymor.

Ymwelodd y Gweinidog â Chartref Gofal Preswyl Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon i weld llwyddiant y gwasanaeth, sydd wedi cael ei gyflwyno’n raddol ar draws Sir y Fflint a hynny oherwydd Cronfa Gofal Canolraddol (ICF) Llywodraeth Cymru. 

Nod y Gronfa yw helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth a hyrwyddo integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Buddsoddwyd dros £10 miliwn yn y Gronfa ledled y Gogledd hyd yn hyn yn 2016-17. 

Yn 2015/16, amcangyfrifir bod y gwasanaeth Cam i fyny, Cam i lawr yn Sir y Fflint wedi osgoi dros 3200 o ddiwrnodau gwely yn yr ysbyty gan arbed rhyw £1.1 m i’r GIG, yn erbyn buddsoddiad o ychydig dros £335,000. Mae’r prosiect hefyd yn parhau i leihau lefelau Oedi wrth Drosglwyddo Gofal ar draws y rhanbarth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: 
"Yng Nghymru, rydyn ni’n buddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, am fod pobl, yn enwedig pobl hŷn, yn dibynnu ar y ddau i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth.
"Mae ein buddsoddiad yn y Gronfa yn helpu pobl i aros allan o'r ysbyty a pharhau’n  annibynnol, ac ar yr un pryd yn arbed arian i'r GIG ac yn lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal, sy'n cael effaith negyddol ar y GIG yn ei gyfanrwydd.
"Mae hi wedi bod yn wych gweld a chlywed yn uniongyrchol sut y mae ein buddsoddiad yn y prosiect ataliol hwn wedi helpu pobl i adennill eu hyder ar ôl salwch neu ddamwain a’u helpu i ddychwelyd yn ddiogel i fyw yn eu cartref eu hunain eto. Mae wedi sicrhau hefyd fod pobl sy'n byw yn y gymuned ac sydd wedi mynd yn sâl yn gallu adennill eu nerth, heb orfod cael eu derbyn i’r ysbyty.
"Hefyd roeddwn wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â’r tîm sy'n gyfrifol am ddarparu’r  gwasanaeth adsefydlu hanfodol hwn. Mae eu hymroddiad yn sicrhau bod pobl yn Sir y Fflint yn cael gofal a chymorth priodol ac amserol."

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint:
“Clywodd y Gweinidog gan y tîm o staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n defnyddio’r dull ail-alluogi i helpu pobl i wella a dychwelyd adref.  Mae’r dull hwn wedi cael ei groesawu gan unigolion a theuluoedd ac mae’n rhoi’r cyfle i bobl gael eu hasesu ar ôl bod yn yr ysbyty.  Mae’r cynllun wedi llwyddo i atal pobl rhag cael eu derbyn yn ddiangen i ofal hirdymor. O’r blaen dyma’r unig ddewis a oedd ar gael o bosibl.”