Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect Ewropeaidd i helpu busnesau bach i ymuno â’r economi gylchol a gweithio mewn ffordd fwy cynaliadwy a phroffidiol wedi dechrau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r economi gylchol yn gysyniad pwysig o fewn yr Economi Werdd.  Mae’n golygu cymryd deunydd gwerthfawr mewn gwastraff a’i roi i weithgynhyrchwyr yng Nghymru i’w ailddefnyddio dro ar ôl tro.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar (dolen allanol) gan yr Ellen MacArthur Fundation a WRAP, mae’n bosib y gallai economi gylchol esgor ar werth rhagor na £2biliwn o fuddiannau economaidd, ac mae astudiaeth gan WRAP/Y Gynghrair Werdd yn dweud y gallai greu hyd at 30,000 o swyddi newydd.

Mae’r prosiect Economi Gylchol ar gyfer BBaChau (CESME) wedi’i sefydlu i helpu Busnesau Bach a Chanolig i ymuno â’r economi werdd a diogelu dyfodol eu busnesau mewn ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy.

Gyda chymorth €1.73miliwn gan Interreg Ewrop a chan gydweithio gyda 10 o bartneriaid o chwe gwlad yn Ewrop, bydd y prosiect yn rhannu profiadau, yn nodi arferion gorau ac yn creu canllaw gam wrth gam i Fusnesau Bach a Chanolig.

Nod y prosiect hefyd yw helpu llunwyr polisïau i wybod a deall manteision economi gylchol a’u cynghori ar sut i ddefnyddio pecynnau cymorth i helpu BBaChau i ymuno â’r economi gylchol.

Cafodd y digwyddiad cyntaf i bartneriaid ei gynnal yng Nghymru, ym mis Mai.  Daeth y deg partner i Gaerdydd a chlywed gan nifer o arbenigwyr ym maes yr economi gylchol, gan gynnwys Canolfan Ecoddylunio Cymru a Rhaglen Weithredu Cynllun Adnoddau (WRAP) Cymru.

Cafodd y partneriaid ymweld â BBaCh lleol Orangebox yn Hengoed, enillydd Gwobr Amgylcheddol Cymru 2002.  Cynhaliodd y cwmni beilot yn 2014 i ddylunio cadair swyddfa y byddai modd ailgylchu 98% ohoni ac a allai wneud £5 miliwn y flwyddyn ac ychwanegu £2.5 miliwn at gadwyn gyflenwi Orangebox.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae gan Gymru enw da trwy’r byd am dwf gwyrdd, ac rydyn ni’n cydnabod y cyfleoedd a ddaw gyda’r economi gylchol.  Bydd rhannu arbenigeddau gwerthfawr yn ein helpu i chwalu’r rhwystrau i Fusnesau Bach a Chanolig a throi’r weledigaeth hon yn realiti.”

Disgwylir i brosiect CESME bara pedair blynedd.  Bydd y cam cynta’n canolbwyntio ar weithio gyda llunwyr polisi i siapio a gwella offerynnau polisi.  Bydd yr ail gam yn gweithio gyda BBaChau.