Bydd pont droed newydd yn cysylltu datblygiad Llys Cadwyn â Pharc Ynysangharad ym Mhontypridd, diolch i fuddsoddiad o dros £800,000 gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd y newyddion am y cyllid gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cyllid yn rhan o brosiect Datblygu Cysylltiadau ym Mhontypridd.
Bydd y bont droed yn creu atyniad ychwanegol i denantiaid busnes posibl, ac i bobl sy'n byw yn y dref neu'n ymweld â hi. Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar waith Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, a'r blaenoriaethau a amlygwyd yn ein cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Rydyn ni eisiau cefnogi canol ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd deniadol a bywiog i bobl fyw a gweithio ac i ymweld â nhw.
Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi gwerth £10 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE yn natblygiad Llys Cadwyn, sy'n creu ardal newydd lawn cyffro yng nghanol y dref, gan gynnwys swyddfeydd a chyfleusterau cymunedol.
Bydd y bont newydd hon yn gwella profiad pobl sy'n cerdded drwy ganol y dref. Mae Llys Cadwyn mor agos at Barc Coffa Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru, sef Lido anhygoel Pontypridd. Mae gan ganol tref Pontypridd lawer i'w gynnig ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y datblygiad yn tyfu.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Fenter, Datblygu a Thai:
Mae datblygiad Llys Cadwyn, a gefnogir gan £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r UE, yn adfywio safle strategol yng nghanol Pontypridd - a bydd yn denu cannoedd o swyddi i'r ardal fel cartref newydd Trafnidiaeth Cymru.
Yn ystod mis Gorffennaf 2019, bydd y gwaith o adeiladu pont droed newydd yn dechrau. Bydd hon yn darparu llwybr pwysig i gerddwyr rhwng Llys Cadwyn a Pharc Coffa Ynysangharad, sy'n brif atyniad i ymwelwyr ac yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
Rydyn ni'n croesawu dyfarnu'r £800,000 o gyllid ychwanegol i adeiladu'r bont newydd, fel rhan o Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru.
Mae rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar draws Cymru dros dair blynedd i gefnogi prosiectau i adfywio canol trefi ac ardaloedd gerllaw. Amcangyfrifir bod y cyllid hwn yn cael ei chwyddo â £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill.