Nod prosiect Creu'r Cysylltiadau yw meithrin gallu hirdymor y trydydd sector i gyfrannu at y broses o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad annibynnol o brosiect 'Creu Cysylltiadau' Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Canfyddiadau allweddol
Swyddogion Creu'r Cysylltiadau yn y rhan fwyaf o achosion wedi ychwanegu gallu oedd ei fawr angen i Gynghorau Gwirfoddol Sirol a chanfod ffyrdd adeiladol o gefnogi cyrff trydydd sector lleol. Y rhan fwyaf o dargedau allbwn wedi eu cyflawni, ond nid yw'r prosiect yn ei gyfanrwydd mewn gwirionedd wedi sicrhau'r canlyniadau a obeithid.
I raddau helaeth mae hyn fel canlyniad y cyd-destun y gweithredodd y prosiect ynddo, ond er y gall ffactorau allanol fod i gyfrif am lawer o'r anawsterau gallai ffactorau mewnol hefyd wedi chwarae rhan.