Mae Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi cyhoeddi prosiect heddiw i blannu coed newydd i nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn Sul y Cofio penwythnos yma.
Bydd prosiect Coedwig Canmlwyddiant Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys gwaith i blannu coed mewn modd creadigol i goffáu y milwyr a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Bydd y prosiect hefyd yn nodi canmlwyddiant y Comisiwn Coedwigaeth, a daeth cangen Cymru yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013. Yn gynnyrch o Ddeddf Coedwigaeth 1919, cafodd y Comisiwn ei greu i adnewyddu cyflenwad coed y wlad, oedd yn is nac erioed yn dilyn y Rhyfel.
Mae'r prosiect yn anelu at gyrraedd pob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda pobl ifanc i ail-adeiladu eu perthynas â choed a phwysleisio pwysigrwydd coed yn ein bywydau. Mae disgwyl i'r plannu ddechrau yn 2019 a bydd yn cymryd rhwng tair a phum mlynedd i'w gwblhau.
Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf trwy ei rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 (dolen allanol).
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Eleni rydyn ni'n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, olygodd bod dros 40,000 o filwyr o Gymru wedi'u lladd.
"Un o ganlyniadau'r Rhyfel oedd yr effaith ar ein coed, a bu gostyngiad enfawr yn nifer y coed gan bod eu hangen ar gyfer y Rhyfel.
"Yng Nghymru, mae coed o fudd i'n heconomi drwy ein masnach pren, ac maent yn darparu gweithgareddau hamdden sy'n dda i'n iechyd a'n lles. Maent yn helpu i leihau risg llifogydd, gwella ansawdd dŵr, cadw carbon o'r atmosffer ac yn gartref i nifer o'n bywyd gwyllt.
"Mae coed hefyd yn hanfodol i fywyd dynol, gan roi yr ocsigen sydd angen arnom i anadlu. Mae felly'n addas ein bod yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, achosodd gymaint o farwolaethau a difrod, drwy blannu nifer o goed newydd, fydd yn helpu i gynnal bywydau am genedlaethau i ddod."
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Roedd ail-adeiladu'r coedwigoedd wedi'r rhyfel yn golygu bod angen nifer fawr o bobl, nifer ohonynt wedi dychwelyd o'r rhyfel gyda'r sgiliau a'r wybodaeth am y tir.
"Mae aberth y rhai na ddychwelodd yn rhywbeth na ddylwn anghofio fyth. Dyna pam ein bod am drafod gyda pobl Cymru fel y gall cenedlaethau'r dyfodol elwa o weithred o ddiolch a chofio fydd yn para amser maith.
"Mae gan goed le arbennig ym mywydau y cymunedau nawr, fel oedd ganddynt yn 1918, ac a fydd ganddynt yn 2119. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cefnogi cymunedau ledled Cymru i edrych ar eu perthynas gyda coed a'u manteision heddiw ac yn y dyfodol.