Gall cymuned wledig elwa bellach ar fand eang gyda'r cyflymaf yn y DU ar ôl i'r trigolion ddod ynghyd i fanteisio ar gynlluniau talebau band eang Llywodraeth Cymru.
Ar gyfartaledd, cyflymder y gwasanaeth band eang yn Llanfihangel-y-fedw, a saif i'r gorllewin o Gasnewydd, oedd 4Mbps, felly penderfynodd y pentrefwyr ffurfio Cwmni Buddiannau Cymunedol er mwyn dod â band eang Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) i drigolion a busnesau, gan gynnig cyflymder lanlwytho a lawrlwytho o 1Gbps neu 1000Mbps.
Mae'r prosiect cymunedol wedi cyflogi contractwyr i wneud peth o'r gwaith, ac mae timau o wirfoddolwyr wedi bod wrthi'n cloddio siamberi, yn sbleisio ffibrau, yn gosod pibelli cludo ac yn gosod offer yn hyb cyfathrebu'r pentref.
Cododd y pentrefwyr yr arian yr oedd ei angen i adeiladu'r rhwydwaith gan wybod y byddai'r cysylltiadau, unwaith iddynt gael eu hadeiladu, yn gymwys i gael eu cyllido o dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru neu'r Cynllun Taleb Gwibgyswllt a gynigir gan Lywodraeth Cymru unwaith y byddent yn cyrraedd y cyflymder priodol. Mae'r ddau gynllun ar gael ar gyfer safleoedd nad ydynt yn gallu cael band eang cyflym iawn ar hyn o bryd.
Mae tafarn y pentref, y neuadd gymunedol a'r eglwys wedi cael eu cysylltu â'r band eang gwibgyswllt eisoes ac mae gwaith ar droed i gysylltu cyfanswm o fwy na 175 o safleoedd yn y gymuned.
Galwodd Julie James, Arweinydd y Tŷ sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau digidol, i mewn i Lanfihangel-y-fedw i weld sut daeth y pentrefwyr at ei gilydd i fanteisio ar gynlluniau talebau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Julie James:
"Er bod rhaglen Cyflymu Cymru wedi gweddnewid y sefyllfa ddigidol yng Nghymru, a bod naw allan o bob deg safle yn gallu cael gafael ar fand eang cyflym iawn erbyn hyn o gymharu ag ychydig dros hanner ohonyn nhw pan ddechreuon ni ar y gwaith, rydyn ni'n gwybod bod yna gymunedau lle nad yw ar gael o hyd.
“Mae'n wych gweld sut mae cymuned Llanfihangel-y-fedw wedi gweld cyfle i ddefnyddio cynllun talebau Llywodraeth Cymru ac i fanteisio ar yr ymdeimlad o gymuned sydd yma i gyflymu gwasanaethau band eang i raddau sydd wedi gweddnewid y sefyllfa'n llwyr. Erbyn hyn, maen nhw'n gallu elwa ar gyflymder rhyngrwyd sydd ymhlith y cyflymaf yn y DU, ac mae hynny'n glod i bawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn.
“Yn gynharach eleni, gwnes i gyhoeddiad am gynigion i ddod â band eang cyflymach i gymunedau yng Nghymru nad oeddent yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru neu gynlluniau masnachol, ac mae hynny'n cynnwys edrych ar yr hyn y gall cymunedau ei wneud gyda'i gilydd. Dwi'n falch o weld beth sydd wedi cael ei gyflawni yma. Mae'n dangos bod grym cymunedol, ynghyd â chymorth gan y llywodraeth, yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn."
Dywedodd David Schofield, sy'n un o gyfarwyddwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol Rhyngrwyd Llanfihangel-y-fedw:
"Mae gennym ryngrwyd gwibgyswllt ar yn Llanfihangel-y-fedw erbyn hyn. Llwyddwyd i sicrhau hynny drwy ymdrech aruthrol gan wirfoddolwyr lleol sydd wedi dod allan ym mhob tywydd i helpu i adeiladu'n rhwydwaith. Hebddyn nhw, heb gefnogaeth perchenogion tir, neuadd y pentref, buddsoddwyr lleol a chynlluniau grant Llywodraeth Cymru, fyddai'r gwaith hwn byth wedi digwydd. Mae gennym bellach gyflymder rhyngrwyd gyda’r gorau yn y byd, ac mae hynny'n golygu bod y cwbl yn werth yr ymdrech."
Dywedodd Caroline Hill a Ben Longman o dafarn Cefn Mably Arms:
"Fel perchenogion tafarn Cefn Mably Arms, rydyn ni'n falch o’r cysylltiad band eang Gwibgyswllt newydd sbon yn Llanfihangel-y-fedw, ac yn ddiolchgar amdano. A ninnau mewn tafarn hynod brysur yng nghefn gwlad mewn oes lle mae busnes yn cael ei gynnal dros y rhyngrwyd, gallwn ni dreulio llai o amser y tu ôl i'r llenni ar faterion fel gweithio gyda chyflenwyr a banciau, marchnata, etc. Oherwydd bod modd lanlwytho a lawrlwytho’n gyflym, gallwn ni dreulio mwy o amser yn cadw llygad ar yr hyn sydd wir yn bwysig i'n busnes, sef bod gyda'n cwsmeriaid a'n staff, a sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o'r safon uchaf i'n holl gwsmeriaid. Yn yr un modd, bydd ein cwsmeriaid yn mwynhau'r Wi-Fi cyflym, rhad ac am ddim, ar gyfer pob agwedd ar gyfathrebu modern wrth iddyn nhw fwynhau ymweliad â'n tafarn a'n pentref."