Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd manylion prosiect newydd ac arloesol sy'n anelu at wella seilwaith ffeibr am ddim cost ychwanegol i'r trethdalwr eu cyhoeddi heddiw gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y prosiect hwn, a fydd y cyntaf o'i fath yn y DU, yn adeiladu ac yn defnyddio pibelli telathrebu Llywodraeth Cymru ar hyd cefnffyrdd yn Ne Cymru, gan gynnwys rhannau o'r M4, er mwyn ychwanegu seilwaith ffeibr newydd.

Mae Net Support UK (NSUK) wedi derbyn consesiwn sy'n rhoi hawliau iddynt adeiladu pibelli lle y bo angen a defnyddio pibelli presennol Llywodraeth Cymru ar hyd y cefnffyrdd at ddiben gosod seilwaith ffeibr am ddim cost i'r pwrs cyhoeddus. Bydd modd iddynt hefyd fasnacheiddio'r rhwydwaith hwn er mwyn creu rhagor o opsiynau o ran cysylltedd i'r ardaloedd cyfagos.

Bydd y prosiect yn defnyddio ased sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella cadernid rhwydwaith ffeibr yr ardal, gan ei gwneud yn fwy deniadol i fusnesau. Gall greu mwy o gapasiti o ran ffeibr er mwyn cefnogi busnesau lleol a hefyd gwmnïau sy'n awyddus i adleoli i Dde Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

"Rydym yn chwilio'n gyson am ddulliau newydd a blaengar o wella ein seilwaith ffeibr, gan helpu i sicrhau bod gan Gymru well cysylltedd. Mae'n syniad da iawn fod Llywodraeth Cymru'n edrych ar ei hasedau hi, gan sicrhau ei bod yn elwa i'r eithaf arnynt.

“Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yn y DU ac mae'n gynllun cwbl arloesol gan na fydd y gwelliannau i'r seilwaith yn golygu unrhyw gostau ychwanegol i drethdalwyr. Byddwn yn defnyddio'r gwersi a gaiff eu dysgu o'r broses hon er mwyn cefnogi prosiectau yn y dyfodol.

Dywedodd Giles Phelps, Rheolwr-Gyfarwyddwr NSUK:

"Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Trwy osod seilwaith ffeibr gallwn gefnogi busnesau a chymunedau yng Nghymru a fydd yn dibynnu mwy a mwy ar dechnolegau digidol yn y dyfodol ac a fydd felly angen ffeibr er mwyn gallu sicrhau cysylltedd dibynadwy.