Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgwyl i raglen newydd gwerth £21 miliwn i gryfhau sector bwyd a diod Cymru ddiogelu miloedd o swyddi a sicrhau dros £100 miliwn i economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prosiect HELIX Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil i gynhyrchu bwyd yn fyd-eang, tueddiadau ym maes cynhyrchu bwyd, a gwastraff, i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig ledled Cymru i gynhyrchu mwy a chreu llai o wastraff.   

Caiff y Prosiect ei ariannu drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig ac mae disgwyl iddo greu 370 o swyddi newydd, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru a’r Cymoedd, tra’n diogelu 2,000 arall dros y bum mlynedd nesaf. 

Bydd y gwaith ymchwil yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd newydd sy’n wynebu’r diwydiant o ganlyniad i benderfyniad y DU i adael yr UE. Bydd y canfyddiadau’n dangos y ffordd orau i gynhyrchwyr o Gymru sicrhau twf ac i gael effaith ar yr economi.

Cafodd y Prosiect ei lansio yn nigwyddiad Blas ar Gymru Llywodraeth Cymru heddiw, ble y bu dros 100 o gynhyrchwyr o Gymru yn arddangos y gorau o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i dros 150 o brynwyr o Brydain a thramor.  

Wrth siarad yn Blas ar Gymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i’r diwydiant bwyd a diod i sicrhau twf o 30% erbyn 2020 ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn bendant ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwnnw.  Prosiect HELIX yw’r cam nesaf ar y daith i sicrhau bod y diwydiant bwyd a diod yn cael ei gydnabod ledled y byd am ei  safon, ei greadigrwydd a’i sgiliau.”

Wedi’i ddatblygu gan Arloesi Bwyd Cymru (FIW), sy’n bartneriaeth o dair canolfan bwyd yng Nghymru, bydd Prosiect HELIX yn helpu cwmnïau bwyd dros y bum mlynedd nesaf ym maes:

  • Arloesi –datblygu cynnyrch newydd arloesol a chwmnïau bwyd newydd 
  • Effeithiolrwydd – helpu busnesau i leihau gwastraff wrth brosesu bwyd a thrwy hynny sicrhau arbedion costau a lleihau gwastraff  
  • Strategaeth – ceisio sicrhau diwydiant o safon fyd-eang drwy sgiliau datblygedig mewn meysydd allweddol megis technoleg bwyd.  

Meddai David Lloyd o Ganolfan Diwydiant Bwyd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ZERO2FIVE, un o bartneriaid Arloesi Bwyd Cymru:

"Rydym am i’r diwydiant fod yn arloesol ym mhob maes, o wella safonau maeth a datblygu cynnyrch newydd i ymateb i heriau iechyd a llesiant, i dueddiadau  ym maes manwerthu a’r farchnad.  Ein nod yw rhoi Cymru ar y map bwyd a diod ledled y byd, ac i wneud hynny, bydd HELIX yn cynnig llawer o gefnogaeth megis dod o hyd i’r bobl fusnes sydd am fuddsoddi neu roi cyngor i weithgynhyrchwyr bwyd ar safonau a rheoliadau technegol.”

Meddai Martin Jardine, Rheolwr Canolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, un arall o bartneriaid Arloesi Bwyd Cymru:  

"Mae effeithiolrwydd yn hanfodol i lwyddiant y busnes, o ymateb mwy i farchnadoedd sy’n newid, bodloni heriau amgylcheddol megis lleihau milltiroedd bwyd a gwastraff bwyd, i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn fwy effeithiol.  Drwy edrych yn fforensig am ffyrdd o fod yn fwy effeithiol ar bob cam wrth gynhyrchu bwyd a diod, rwy’n hyderus bod gan y sector yng Nghymru ddyfodol llewyrchus iawn.” 

Cwmni olaf partneriaeth Arloesi Bwyd Cymru yw Eirlys Lloyd o Ganolfan Bwyd Cymru yng Ngheredigion, a ychwanegodd:  

"Trwy fod yn fwy strategol mae posibiliadau enfawr i’r sector bwyd a diod yng Nghymru wella a chyrraedd ei dargedau uchelgeisiol ar gyfer twf.  Trwy’r prosiect  HELIX byddwn yn helpu busnesau yng Nghymru i ddadansoddi eu prosiectau cyfan a chynllunio pob elfen yn strategol, gan gynnwys gweithgynhyrchu diwydiannol, prosesu bwyd, cysylltu â’r cyhoedd a hyfforddi a datblygu sgiliau.”