Neidio i'r prif gynnwy

Mae cysylltu data yn dechneg ar gyfer creu cysylltiadau rhwng ffynonellau data fel y gallai gwybodaeth ddienw y credir sy'n ymwneud â'r un person, teulu, lle neu ddigwyddiad gael eu cysylltu at ddibenion ymchwil.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i gysylltu data gael ei wneud mewn modd sy'n ddiogel, moesegol ac yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth berthnasol arall.
Cafodd y prosiectau arddangos cysylltu data eu hariannu ar y cyd â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac fe gawsant eu cwblhau gan ddefnyddio seilwaith Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe.

Ffyrdd allweddol y gallai cysylltu data gyfrannu at y sail dystiolaeth

  • Gallai ein galluogi i "gasglu (gwybodaeth) unwaith, a'i ddefnyddio sawl gwaith".
  • Trwy gysylltu data gweinyddol o ffynonellau lluosog, gallwn blotio 'teithiau' gwahanol fathau o ddefnyddwyr gwasanaeth i archwilio'r 'llwybrau' gwahanol maent yn eu dilyn trwy ystod o wasanaethau cysylltiedig. Gallai hyn ein helpu i nodi lle y gallai gwasanaethau gael eu gwella.
  • Mae cysylltu data o ran ei natur yn 'hydredol' hy mae'n gadael i ni weld sut mae pethau yn newid dros amser. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i rannu achos oddi wrth effaith, rhywbeth sy'n hanfodol i ddyluniad ymyriadau llwyddiannus y gellir ei gyflawni fel arfer drwy ariannu ymchwil hydredol sylfaenol drud yn unig.
  • Mewn rhai achosion, gallwn leihau neu hyd yn oed ddileu'r baich o gasglu data ar ddinasyddion, gan arbed arian drwy ddefnyddio data sydd gennym yn barod yn hytrach na gwneud ymchwil sylfaenol newydd.
  • Mae cysylltu setiau data sy'n ymwneud ag ymyriadau polisi cymdeithasol yn ein galluogi i greu llinellau sylfaen yn ôl-weithredol ac i greu achosion 'rheoli' manwl er mwyn cefnogi gwerthuso polisi.
  • Gallai cysylltu setiau data ar raddfa fawr ein galluogi i ymchwilio i grwpiau prin neu grwpiau bach nad ydynt yn cael eu dosbarthu'n unffurf yn y boblogaeth yn ogystal â darparu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol llai o faint. Ar gyfer rhai grwpiau poblogaeth bach, er enghraifft rhai o'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cysylltu data gweinyddol a / neu arolwg fydd yr unig ffordd realistig o gyflenwi data y gellir eu defnyddio.
  • Mae data cysylltiedig yn ein galluogi i ddadansoddi'r berthynas rhwng gwahanol faterion gwahanol sy'n dylanwadu ar fywydau pobl, er enghraifft, i ymchwilio i bynciau 'drwg' 'sydd ag achosion cymhleth, trawsbynciol ee trais yn y cartref, gordewdra, camddefnyddio sylweddau.
  • Gellir defnyddio cofnodion gweinyddol i ychwanegu gwerth at setiau data o arolygon cymdeithasol presennol, er enghraifft trwy gymharu'r defnydd o'r gwasanaeth iechyd gydag iechyd hunan-gofnodedig a lles goddrychol.
  • Gan ddefnyddio newidynnau wedi'u cysoni, sy'n cael eu rhannu (o setiau data arolygon neu weinyddol), gallwn ddechrau datblygu gwybodaeth gyfoethocach am y boblogaeth ar gyfer Cymru.

Sarah Lowe

Rhif ffôn: 0300 062 5229

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyrfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.