Bydd cyflwyno un llwybr canser ar gyfer pobl yr amheuir bod canser arnynt yn gwella ansawdd a chanlyniadau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru
Bydd yr un llwybr canser newydd yn dechrau o'r adeg yr amheuir bod canser ar y claf, yn hytrach na'r adeg pan fydd y canser wedi'i gadarnhau, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn achos rhai cleifion canser. Y bwriad yw y dylai'r driniaeth ddechrau o fewn 62 o ddiwrnodau o'r adeg yr amheuir bod canser arnynt.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3miliwn er mwyn gweithredu'r llwybr canser newydd o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen.
Ni fydd y llwybr newydd yn disodli'r llwybrau presennol ar gyfer Achosion Brys lle ceir amheuaeth o ganser / Achosion nad ydynt yn rhai Brys lle ceir amheuaeth o ganser ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r byrddau iechyd lunio adroddiad deuol ar berfformiad y tri llwybr o fis Mehefin 2019 ymlaen.
Ym mis Tachwedd 2017 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi adroddiad ar ffurf gysgodol ar y llwybr canser newydd ochr yn ochr â'r llwybrau eraill.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Canser yw’r afiechyd sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru â’r DU.
"Mae'n debygol iawn y bydd canser yn cyffwrdd â phawb ar ryw adeg, bydd rhai yn dioddef o'r clefyd ac eraill yn gweld ffrind neu anwylyd yn ymladd y clefyd - a hynny fwy nag unwaith ar adegau.
“Mae GIG Cymru yn trin mwy o gleifion â chanser nag erioed o'r blaen . Rydym yn gweld ac yn trin mwy o gleifion nag erioed o'r blaen. Yn ystod y 12 mis diwethaf, dechreuodd 17,033 o gleifion ar eu triniaeth ddiffiniol ar gyfer canser, sy'n 8.6% (1,374) yn fwy o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl. Yn ogystal, dechreuodd 15,730 o gleifion ar eu triniaeth o fewn yr amser targed, sy'n 8.1% (1,180) yn fwy o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.
"Fodd bynnag, ni allwn ddianc rhag y ffaith nad ydym wedi cyrraedd ein targedau yn ddigon aml ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd bod tua 92% o bobl sydd â chanser yn cael eu trin o fewn yr amser targed a hynny yn y ddau lwybr.
"Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pawb sy'n wynebu canser yng Nghymru yn cael y driniaeth briodol ar yr adeg gywir er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl.
“Mae clinigwyr wedi arwain ar y cynigion ar gyfer un llwybr canser ac maent wedi derbyn cefnogaeth ar draws y gymuned glinigol. Drwy lunio adroddiadau deuol ar yr un llwybr canser, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu un mesur o ran amseroedd aros ar gyfer canser. Mae'n adlewyrchu ein dyhead i sicrhau gael diagnosis cynnar o ganser ac i wneud yn siŵr bod pob claf yn cael ei drin yn gyflym ac yn effeithiol.
"Bydd y ffordd newydd o fesur amseroedd aros pobl am driniaeth ar gyfer canser yn gwella ansawdd a chanlyniadau ein cleifion canser ac rwy'n hyderus mai dyma'r ffordd orau ymlaen ar gyfer Cymru."
Dywedodd Andy Glyde, rheolwr materion cyhoeddus Ymchwil Canser DU yng Nghymru:
"Mae amseroedd aros canser yn faromedr i sut y mae'r GIG yn perfformio ac mae'r system newydd hon i'w chroesawu gan y bydd yn rhoi darlun cliriach i ni o beth sy'n digwydd i gleifion sy'n mynd drwy ddiagnosis canser.
"Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganfod canser yn gynharach yn bwysig. Mae cleifion sy'n cael diagnosis yn ystod cyfnodau cynharaf canser yn fwy tebygol o gael triniaeth lwyddiannus. Er mwyn i'r Llwybr Canser Sengl newydd gyflawni ei botensial lawn mae'n rhaid iddo gael ei ddefnyddio i lywio'r sut yr ydym yn gwella diagnosis o ganser yng Nghymru, gan gynnwys gwneud yn siŵr bod gennym y gweithlu cywir mewn lle."