Heddiw cyhoeddodd Lesley Griffiths y bydd profion ychwanegol yn cael eu cynnal ar fuchesi cyffiniol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o TB.
Mewn ymateb i’r cynnydd, o 13 Tachwedd 2018, bydd y defnydd o brofion ychwanegol ar fuchesi cyffiniol yn cael ei ehangu o amgylch buchesi sydd wedi’u heintio â TB sydd â Statws heb TB Swyddogol Wedi’i Ddiddymu yn Ardal TB Canolradd y Gogledd.
Bydd y profion ychwanegol hyn mewn buchesi â risg uwch o gael eu heintio yn dyblu’r ymdrech i ganfod y clefyd yn yr ardal, gan ychwanegu dau brawf arall ar fuchesi cyffiniol bob chwe mis at y drefn brofi.
I gefnogi ffermwyr yn Ardal TB Canolradd y Gogledd ar yr adeg anodd hon, byddwn yn cyflwyno ymweliadau milfeddygol “cadw’r clefyd allan”, gyda chymhorthdal gan y Llywodraeth i dalu amdanynt, ar gyfer buchesi sydd wedi cael prawf negyddol yn y profion ar fuchesi cyffiniol.
Bydd yr ymweliadau hyn yn cael eu gwneud gan filfeddygon sydd wedi cael hyfforddiant arbennig o bractis lleol y ffermwyr a byddant yn edrych ar y darlun o’r clefyd yn lleol, bioddiogelwch a pholisi masnachu gwartheg a phrynu gwybodus y fferm. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddir mewn ymweliadau Cymorth TB â buchesi wedi’u heintio â TB.
Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae cyflwyno Ardaloedd TB fel rhan o ailwampio’r Rhaglen Dileu TB yn ein galluogi i gyflwyno mesurau yn gyflym, yn hyblyg ac yn lleol i geisio trechu’r clefyd ac ymateb i unrhyw gynnydd lleol yn nifer yr achosion o’r clefyd.
“Mae’n amlwg o’r cynnydd uwch nag a welwyd erioed o’r blaen mewn achosion newydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn Ardal TB Canolradd y Gogledd nad tuedd tymor byr yw hwn ac ni fydd y gyfradd yn lleihau heb gymorth. Dyna pam rwy’n cyhoeddi heddiw y byddwn yn dyblu ein hymdrechion ac yn cyflwyno profion ychwanegol ar fuchesi cyffiniol yn yr Ardal. At hynny byddwn yn cynorthwyo ffermwyr ar yr adeg anodd hon drwy ddarparu ymweliadau ‘cadw’r clefyd allan’ ar gyfer buchesi sydd wedi cael canlyniadau negyddol.
“Rydym ni wedi gwneud cynnydd da at gyflawni’r nod o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru. Bydd cyflwyno profion ychwanegol ar fuchesi cyffiniol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod ni’n parhau i weithio at sicrhau Cymru Heb TB.”