Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

'Adroddiad ar brofiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru'

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adolygiad gan yr Is-adran Tegwch mewn Addysg yn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ar ran Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ystyried nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oed uwchradd a'r diwylliant a'r prosesau sy'n helpu i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Disgyblion

Dywed tua hanner yr holl ddisgyblion fod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a dywed tri chwarter o’r holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn. Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fwy cyffredin ar-lein a’r tu allan i’r ysgol nag ydyw yn yr ysgol.

Y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol yw disgyblion yn heclo a gwneud sylwadau cas, gwneud sylwadau homoffobig, a sylwadau am ymddangosiad.

Yn gyffredinol, nid yw disgyblion yn dweud wrth athrawon pan maent yn profi aflonyddu rhywiol. Maent yn teimlo bod hyn wedi dod yn ymddygiad wedi’i normaleiddio ac yn dweud nad yw athrawon yn ymwybodol o raddau’r broblem. Yn ogystal, dywed disgyblion fod athrawon yn aml yn wfftio digwyddiadau fel rhai pitw, neu’n annog disgyblion i’w hanwybyddu.

Dywed llawer o ddysgwyr LHDTC+ fod bwlio homoffobig yn digwydd trwy’r amser ac mai dyma’r math mwyaf cyffredin o aflonyddu yn eu hysgol.

Mae mwy na hanner y bechgyn yn sôn am ymwneud yn bersonol ag aflonyddu’n rhywiol ar eu cyfoedion, yn cynnwys rhoi pwysau ar ferched i anfon ffotograffau noeth.

Dywed llawer o ddisgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan nad ydynt wedi cael digon o addysg rhyw a chydberthynas yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Dywed disgyblion hŷn mewn llawer o ysgolion nad ydynt wedi cael unrhyw addysg rhyw o gwbl, a’u bod yn awyddus iawn i gael mwy o gyngor ac arweiniad. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi cael gwersi gan ‘bobl go iawn sy’n siarad am broblemau bywyd go iawn’ ac eisiau gweld mwy o’r math hwn o ddysgu.

Ysgolion

Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn hyrwyddo ethos cryf o barch ym mhob agwedd ar eu gwaith. Mewn llawer o ysgolion, mae ymagwedd gref o fynd i’r afael â diogelu fel tîm. Caiff staff hyfforddiant rheolaidd a phriodol, maent yn deall eu cyfrifoldeb o ran diogelu plant ac yn cyflawni eu dyletswyddau diogelu yn dda. Fel arfer, mae arweinwyr yn ymateb yn briodol i gŵynion ffurfiol gan rieni neu ddisgyblion am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ac yn cynnwys asiantaethau allanol priodol.

Ceir anghysondeb cyffredinol ymhlith staff ysgolion am eu dealltwriaeth o beth mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ei olygu, yn cynnwys materion ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a sut maen nhw’n effeithio ar ddisgyblion. Hyd yn oed o fewn ysgolion, mae anghysondeb yn y ffordd y mae athrawon yn ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid yw arweinwyr, athrawon a staff cymorth yn ymwybodol o fynychder uchel aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith pobl ifanc gan nad yw disgyblion yn dweud wrthynt amdano yn systematig. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn ymateb yn briodol i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y cânt wybod amdano, ond nid ydynt yn ddigon rhagweithiol yn eu hymagwedd i’w atal rhag digwydd.

Er gwaetha’r ffaith bod ysgolion yn cofnodi digwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad a bwlio yn gyffredinol, nid ydynt yn gwneud defnydd cynhyrchiol o’r data a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt i gategoreiddio a dadansoddi achosion o fwlio ac aflonyddu rhwng cyfoedion yn ddigon da. Mewn llawer o ysgolion, nid yw arweinwyr yn gwneud digon o ddefnydd o ganfyddiadau’r ‘Adroddiad ar Iechyd a Lles Myfyrwyr’ bob dwy flynedd a lunnir gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) i gynllunio darpariaeth.

Mewn tua hanner yr ysgolion, mae arweinwyr wedi datblygu darpariaeth addas ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ‘Iechyd a Lles’ y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer naill ai Blwyddyn 7 neu Flwyddyn 8 o fis Medi 2022. At ei gilydd, caiff testunau sy’n cwmpasu perthnasoedd iach ar gyfer y grwpiau blwyddyn hyn eu cynnwys yn ddigonol.

Mae gormod o amrywiad yn yr amser a neilltuir ar gyfer ABCh ar draws ysgolion yng Nghymru. Ar y cyfan, ni roddir digon o ystyriaeth i ba mor eang a manwl y dylid ymdrin â thestunau ABCh wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy’r ysgol.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, yn bennaf o ganlyniad i bwysau’r cwricwlwm, nid oes gwersi ABCh rheolaidd ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 na disgyblion yn y chweched dosbarth. Yn ogystal, mae’r pandemig a dysgu o bell wedi cael effaith anghymesur ar y ddarpariaeth ar gyfer ABCh.

Mewn lleiafrif bach o ysgolion, mae arweinwyr yn mynd ati i gael barn disgyblion am faterion personol a chymdeithasol, yn cynnwys aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ac yn ymateb yn dda i broblemau wrth iddynt godi, neu pan fyddant yn cael eu rhannu gan ddisgyblion a staff.

Mae pob ysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chydweithrediad asiantaethau allanol, megis swyddog heddlu’r ysgol a gweithwyr ieuenctid, i ychwanegu at eu darpariaeth ABCh. Fodd bynnag, dywed ysgolion fod y cymorth arbenigol allanol ar gyfer addysg rhyw yn gyfyngedig erbyn hyn.

Dywed pob ysgol fod angen mwy o hyfforddiant a chymorth arnynt i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb ac i ymgysylltu mewn sgyrsiau gyda disgyblion am faterion rhywedd ac aflonyddu rhywiol.

Mae staff ysgol yn mynegi’n gryf bod angen cydweithio â rhieni, a bod angen eu cydweithrediad wrth ddelio ag achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Awdurdodau lleol

O dan Ganllawiau Gwrthfwlio Statudol Llywodraeth Cymru, mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fonitro’r data tymhorol ar fwlio a chydraddoldeb y mae ysgolion yn ei rannu â nhw, a rhoi cyngor i ysgolion ar dueddiadau lleol. Prin yw’r achosion o fwlio y mae ysgolion yn rhoi gwybod i awdurdodau lleol amdanynt, ac anaml y byddant yn adrodd ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Mae diffyg cysondeb yn y modd y mae awdurdodau lleol yn casglu, dadansoddi a defnyddio data ar fwlio ac aflonyddu. Yn gyffredinol, nid yw swyddogion awdurdodau lleol yn defnyddio gwybodaeth o’r fath yn effeithiol i gynllunio ymyriadau neu hyfforddiant i staff. Yn ogystal, nid oes gofyniad statudol i awdurdodau lleol rannu eu data neu eu hymateb i dueddiadau o ran bwlio â Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 1

Dylai ysgolion uwchradd:

  • Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater. Rhan bwysig o hyn yw ei bod yn cynnwys darparu sicrwydd i ddisgyblion y bydd staff ysgol yn cymryd pob achos o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 2

Dylai ysgolion uwchradd:

  • Ddarparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, cefnogol a galluogol ar gyfer trafodaethau agored a gonest.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 3

Dylai ysgolion uwchradd:

  • Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio. Dylai cofnodion gynnwys manylion am y math o achosion, a’u natur, yr effaith ar y dioddefwr a chamau gweithredu priodol i ymateb i gyflawnwyr a dioddefwyr, fel ei gilydd. Dylai arweinwyr sicrhau eu bod yn adolygu cofnodion yn rheolaidd, ac yn gwerthuso effaith eu gweithredoedd ar les disgyblion.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 4

Dylai ysgolion uwchradd:

  • Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid. Mae hyn er mwyn iddynt allu darparu dull cadarnhaol a rhagweithiol o gefnogi disgyblion wrth iddynt dyfu a datblygu'n oedolion ifanc.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 5

Dylai awdurdodau lleol:

  • Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr. Yn ychwanegol, cynorthwyo ysgolion i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd i nodi tueddiadau a rhoi trefniadau adferol ar waith.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 6

Dylai awdurdodau lleol:

  • Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 7

Dylai awdurdodau lleol:

  • Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Byddwn yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Derbyn. Rydym eisoes yn ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i'n canllawiau gwrth-fwlio, Hawliau, Parch, Cydraddoldeb mewn perthynas ag aflonyddu hiliol a bwlio mewn ysgolion, yn unol â'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ehangu'r gwaith hwn yn effeithiol i gynnwys ffyrdd cadarn a chyson o adrodd, cofnodi a chasglu data ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, yn ogystal ag aflonyddu a bwlio homoffobig.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd a llawn gwybodaeth ar adnoddau addas sydd ar gael i’w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Derbyn. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gydag ymarferwyr a phartneriaid. Mae swyddogion yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol a phobl o fewn Llywodraeth Cymru yn ehangach i nodi bylchau, ac i gomisiynu adnoddau newydd o ansawdd uchel lle bo angen i gefnogi gweithredu. Bydd sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol hefyd yn rhoi cyfle i drafod adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb, pa adnoddau sy'n cael eu hystyried o ansawdd uchel ac i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau lle y gallai fod angen comisiynu adnoddau newydd.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddodd Estyn yr adolygiad hwn ar 8th Rhagfyr 2021.