Dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen ‒ gan fynd ati ar yr un pryd i greu chwedlau newydd yma yng Nghymru.
Wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer adeiladu ar lwyddiant y Flwyddyn Antur yn 2016, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Y nod yn 2017 yw sicrhau mai’n diwylliant a’n treftadaeth fydd yn cael y lle canolog ym mrand Cymru.
“Dyw e’ bendant ddim yn fater o edrych yn ôl: hanfod y Flwyddyn Chwedlau yw dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen, gan ddefnyddio dulliau cwbl arloesol. Y nod yw creu chwedlau newydd yng Nghymru, a’u dathlu – yn gymeriadau, yn gynhyrchion ac yn ddigwyddiadau modern sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, neu sy’n cael eu cyfoethogi drwy ddod yma.
“Bydd ein hasedau diwylliannol yn elwa ar yr un faint o greadigrwydd ag a welwyd wrth inni fynd ati i fywiogi’r sector Antur: bydd y gweithgareddau’n rhai unigryw i Gymru, ac yn rhai eithriadol ar y llwyfan rhyngwladol.”
Mae’r Flwyddyn Antur wedi cael cryn effaith yng Nghymru, ac mae wedi cael cefnogaeth lwyr y diwydiant. Wrth i’r flwyddyn dynnu tua’i therfyn, dywedwyd yn y Lonely Planet fod Gogledd Cymru yn un o’r deg lle gorau yn y byd i ymweld â nhw yn 2017. Mae hynny’n tystio i ymroddiad y sector cyhoeddus a’r sector preifat a’r gwaith y maent yn ei wneud ar y cyd i gynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Gwelon ni fwy nag Antur yn unig yn ystod 2016 - dyma flwyddyn y refferendwm ar Brexit, ac mae hynny wedi newid cyd-destun y Flwyddyn Chwedlau yn llwyr. Mae’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed inni arloesi yn y ffyrdd mwyaf blaengar posibl er mwyn sicrhau bod ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig yn gallu cystadlu ar y lefel ryngwladol. Bydd angen inni fynd ati mewn ffordd fwy egnïol nag erioed i werthu Cymru i’r byd.”
Yn ystod y Flwyddyn Chwedlau, byddwn yn gweld rhaglen na welwyd ei thebyg o’r blaen o weithgareddau creadigol yng nghestyll Cymru; Twrnamaint canoloesol gwefreiddiol yng Nghonwy; a dadorchuddio dau ddarn pwysig o gelfwaith o fri rhyngwladol. Bydd Cymru’n cael ei hyrwyddo fel gwlad sy’n llawn chwedlau , byddwn yn gweithio gyda VisitBritain i dynnu sylw at ffilm newydd a fydd yn cael ei rhyddhau am y Brenin Arthur, ac yn rhoi cydnabyddiaeth i dalentau byd-eang a ysbrydolwyd gan Gymru, o Dahl i Dylan Thomas i Tolkien, gan gynnig teithiau a chreu llwybrau.
Bydd partneriaid blaenllaw ym maes y celfyddydau, gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnig rhaglen gyfoethog ac ysbrydoledig o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliadau a fydd yn seiliedig ar waith a themâu chwedlonol.
Ym mis Mehefin, bydd Cymru’n croesawu Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd ‒ y digwyddiad hwn fydd yr un mwyaf yn y byd ym maes chwaraeon y flwyddyn nesaf. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, bydd ymgyrchoedd digidol mewn sawl iaith; gosodiadau arbrofol; a sylw yn y cyfryngau ledled y byd, wrthi inni baratoi’r llwyfan ar gyfer digwyddiadau chwedlonol eraill ym maes chwaraeon, megis Tlws y Pencampwyr ym maes criced a’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn.
Wrth gloi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae’r ymgyrch bwysig hon, sy’n cael ei chynnal ar sawl cyfrwng ac mewn nifer o farchnadoedd, wedi dechrau eisoes ym Marchnad Teithio’r Byd, a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn glir bryd hynny fod gan arlwy diwylliannol unigryw ac amrywiol Cymru – a hefyd yr hyn sydd ganddi i’w gynnig o ran Antur – botensial go iawn i symud ein brand a’n perfformiad ymlaen i lefel newydd. Y flwyddyn nesaf, bydd y gyllideb ychwanegol o £5 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Croeso Cymru yn golygu y bydd cyllid ar gael ar gyfer profiadau a digwyddiadau o ansawdd ryngwladol a fydd yn diffinio’r brand.
“Mae gennym weledigaeth hirdymor hefyd o ran ymfalchïo yn y diwylliant a’r cymunedau rydyn ni’n mynd ati i’w hyrwyddo, ac i gryfhau a gwella’u gwead; gan greu sylfaen gadarn a fydd yn caniatáu i chwedlau newydd gael eu creu yn y dyfodol.”
Y mis hwn, mae Croeso Cymru wedi bod yn mynd â sioeau teithiol i leoliadau ar draws Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth gyda’r diwydiant twristiaeth ar sut y gallan nhw gymryd rhan yn y Flwyddyn Chwedlau yn 2017. Mae’n flwyddyn i’r diwydiant cyfan ac yn gyfle i ennill mwy o fusnes.
Mae Croeso Cymru wedi cymeradwyo swm o £1.28 miliwn eisoes ar gyfer 35 o brosiectau a fydd yn helpu rhanddeiliaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i ddatblygu prosiectau a fydd yn cyd-fynd â’r Flwyddyn Chwedlau. Un o amcanion allweddol y cymorth hwnnw yw hyrwyddo rhagor o weithio mewn partneriaeth a chydweithio ar lefel y cyrchfannau, a bydd cyllid yn y dyfodol yn canolbwyntio ar brosiectau arloesol, uwch eu hansawdd a fydd yn parhau i gefnogi gweithgarwch y blynyddoedd thematig. Un enghraifft yw’r prosiect gwestai glampio dros dro, sy’n cael ei gynnal gan Y Gorau o Gymru mewn partneriaeth â Cambria Tours a Phenseiri George a Tomos.
Dywedodd Llion Pughe, Cyfarwyddwr Y Gorau o Gymru:
“Mae’r Flwyddyn Chwedlau’n rhoi cyfle heb ei ail inni adrodd stori Cymru o’n safbwynt ni fel bod ein hymwelwyr yn clywed y gwir stori am Gymru. Bydd hyn yn fodd i ddod â Chymru’n fyw, a bydd yn sbarduno pobl i ymweld â Chymru. Rydym yn llawn cyffro am ein gwesty glampio dros dro, sy’n cael ei alw’n Epic Retreats Cymru. Bydd y gwesty hwnnw’n ymweld â thri lleoliad gwefreiddiol yng Nghymru yn ystod 2017”
“Bydd gwesty dros dro Epic Retreats Cymru yn ganlyniad i gystadleuaeth a gafodd ei chynnig drwy dendr i ddylunio uned glampio foethus ar thema Cymru. Roedd safon y ceisiadau’n eithriadol o uchel ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyhoeddi’r dyluniadau a fydd yn cael eu comisiynu. Byddwn ni’n gwneud hynny'r wythnos nesaf. Bydd yr unedau hyn yn hollol unigryw a symudol a byddant yn dod at ei gilydd i greu gwesty glampio Cymreig. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i aros yno a mwynhau profiadau arbennig, bythgofiadwy. Caiff thema leol ei hyrwyddo ym mhob lleoliad. Ymhlith y gweithgareddau a gaiff eu cynnig bydd prydau bwyd a fydd yn defnyddio cynnyrch lleol ac yn cael eu paratoi gan gogyddion gorau’r ardal, adloniant gan artistiaid o Gymru, a chyflwyniad i Fytholeg yr ardal. O fynd ar wyliau tair noson, byddwch yn cael ymweld â rhai o atyniadau arbennig a safleoedd enwog yr ardal, a hynny’n gynwysedig yn y pris.”