Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Yn ystod yr wythnos diweddaraf (13 i 19 Mawrth 2022):

  • o blith y 36,337 o achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 29,786 (82.0%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar.
  • o blith y 41,115 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 28,459 (69.2%) yn llwyddiannus a rhoi’r cyngor perthnasol iddynt, neu cafodd eu hachos ei ddatrys fel arall.
  • roedd 32,962 (80.2%) o’r cysylltiadau agos yn gysylltiadau cartref, a chafwyd gafael ar 22,397 (67.9%) yn llwyddiannus a rhoi’r cyngor perthnasol iddynt, neu cafodd eu hachos ei ddatrys fel arall.
  • roedd 2,495 o achosion positif a 3,802 o gysylltiadau agos nad oeddent yn gymwys i gael camau dilynol.

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin 2020:

  • o blith y 940,260 o achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 869,912 (92.5%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar.
  • o blith y 1,501,453 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 1,343,187 (89.5%) yn llwyddiannus a rhoi’r cyngor perthnasol iddynt, neu cafodd eu hachos ei ddatrys fel arall.
  • mae 111,328 o achosion positif a 164,879 o gysylltiadau agos nad oeddent yn gymwys i gael camau dilynol.

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Wasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru. Rydym yn eu cyhoeddi er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Dadansoddi

Mae Siart 1 yn dangos y nifer dyddiol o achosion positif a’r cysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol. Mae’r amrywiaeth rhwng diwrnodau’n adlewyrchu’r gwahaniaeth yn y galw ar y system (er enghraifft nifer y profion a wnaed). Rhoddir mwy o wybodaeth yn yr adran ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad hwn.

Gwelwyd y nifer uchaf o achosion positif (71,202) a chysylltiadau agos (53,043) a oedd yn gymwys i gael camau dilynol yn yr wythnos yn dechrau 1 Ionawr 2022. Roedd y cyfanswm cyfunol o 124,245 o achosion positif a chysylltiadau agos yn sylweddol uwch nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig. Wedi hynny, mae achosion a chysylltiadau sy'n gymwys i gael camau dilynol wedi gostwng i lefelau tebyg i'r don cyn-Omicron.

Hyd at ddechrau 2022 roedd nifer yr achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol yn dilyn tuedd debyg, er ar lefel ychydig yn is i nifer yr achosion PCR a gofnodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae'r niferoedd is yma'n adlewyrchu nad yw rhai achosion yn gymwys i gael camau dilynol, er enghraifft achosion mewn lleoliadau caeedig fel ysbytai. Erbyn canol mis Ionawr 2022 roedd y cyfanswm yma yn uwch na ffigur Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer achosion positif PCR dyddiol, oherwydd gostyngiad mewn profion PCR ar ôl y cyhoeddiad nad oedd angen profion dilynol PCR mwyach ar ôl cael prawf llif unffordd positif. Roedd achosion o brofion llif unffordd yn dal i gael eu cynnwys at ddibenion olrhain cysylltiadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cyhoeddi adroddiadau profion llif unffordd, gan gynnwys nifer yr achosion positif newydd, ar wahân ers mis Mawrth 2021.

Image
Yn nhrefn maint, mae uchafbwyntiau’n digwydd y Rhagfyr 2021, Ionawr 2022, Mawrth 2022, Medi/Hydref 2021, Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 a Gorffennaf 2021.

Nifer yr achosion positif a chysylltiadau agos sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol ar StatsCymru

Yr amser a gymerir i gael gafael ar achosion positif a chysylltiadau agos

Drwy gydol y pandemig, mae cysylltiad rhwng y baich cyffredinol ar y system olrhain cysylltiadau a'r amser a gymerir i gael gafael ar gysylltiadau agos. Mae cynnydd sylweddol mewn achosion a chysylltiadau yn cyfateb i ostyngiadau yn y gyfran y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr.

Achosion positif

Yn ystod yr wythnos diweddaraf (13 i 19 Mawrth 2022):

  • o blith y 36,337 o achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 42.3% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 51.6% o'r rheini o fewn 24 awr
  • cafwyd gafael ar 68.8% o achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol o fewn 48 awr; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 83.9% o'r rheini o fewn 48 awr
Image
Mae cynnydd sylweddol mewn achosion a chysylltiadau yn cyfateb i ostyngiadau yn y gyfran yr achosion positif y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr ym mis Rhagfyr 2020 ac o fis Medi i fis Rhagfyr 2021.

Canran yr achosion positif sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol o fewn 24 a 48 awr ar StatsCymru

Cysylltiadau agos

Yn yr wythnos diweddaraf (13 i 19 Mawrth 2022):

  • o blith y 41,115 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, cafwyd gafael ar 45.7% o fewn 24 awr ar ôl cael eu nodi gan achos positif; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 66.0% o'r rheini o fewn 24 awr
  • cafwyd gafael ar 64.5% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol o fewn 48 awr ar ôl cael eu nodi gan achos positif; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 93.2% o'r rheini o fewn 48 awr
Image
Mae cynnydd sylweddol mewn achosion a chysylltiadau yn cyfateb i ostyngiadau yn y gyfran yn gysylltiadau agos y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr ym mis Rhagfyr 2020 ac o fis Medi i fis Rhagfyr 2021.

Canran yr achosion positif sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol o fewn 24 a 48 awr ar StatsCymru

Yn yr wythnos diweddaraf (13 i 19 Mawrth 2022):

  • o’r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau, cafwyd gafael ar 22.1% o’r cysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol* o fewn 24 awr; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 32.0% o'r rheini o fewn 24 awr
  • o’r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau, cafwyd gafael ar 47.9% o’r cysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol* o fewn 48 awr; mae hyn gyfystyr â chael gafael ar 69.2% o'r rheini o fewn 48 awr
Image
Mae cynnydd sylweddol mewn achosion a chysylltiadau yn cyfateb i ostyngiadau yn y gyfran y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr ym mis Rhagfyr 2020 ac o fis Medi i fis Rhagfyr 2021.

Canran yr achosion positif sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol o fewn 24 a 48 awr ar StatsCymru

* Nid yw cysylltiadau agos sy'n 'gymwys i gael camau dilynol’ yma yn cynnwys rhai pobl sydd wedi'u cynnwys fel rhai sy'n gymwys i gael camau dilynol mewn adrannau cynharach o'r adroddiad hwn. Wedi'u heithrio o'r adran hon y mae cysylltiadau agos sy'n gysylltiedig ag achosion positif y tu allan i Gymru a'r rhai a gynhyrchir drwy Ap COVID-10 y GIG (gweler y geirfa am ragor o wybodaeth).

Cysylltiadau agos sy'n dod yn achosion positif

Mae'r adran hon yn edrych ar gysylltiadau agos sy'n mynd ymlaen i gael prawf positif o fewn 7 diwrnod i'r adeg y’u cyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau.

Image
Mae cyfran yr achosion positif a nodwyd fel cysylltiadau agos ag achosion positif blaenorol wedi bod yn newid yn ystod y pandemig. Mae wedi amrywio o tua 5% i dros 30% ar wahanol adegau ers sefydlu'r system olrhain cysylltiadau yn llawn ddiwedd haf 2020. Gwelwyd y gyfran uchaf ym mis Ebrill 2021, pan oedd cyfraddau achosion yn isel iawn. Mae'r gostyngiadau ym mis Rhagfyr 2020 a mis Rhagfyr 2021 yn cyfateb i gynnydd sydyn mewn cyfraddau achosion.

Yn yr wythnos diweddaraf, o blith y 36,337 o achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol, nodwyd bod 4,355 (12.0%) yn gysylltiadau agos ag achosion positif eraill yn ystod y 7 diwrnod blaenorol. O blith y rhain, cafwyd gafael ar 3,419 (78.5%) gan dimau olrhain cysylltiadau a rhoddwyd y cyngor perthnasol iddynt.

Ers 21 Mehefin 2020, o blith yr 940,260 o achosion positif, roedd cyfanswm o 126,172 (13.4%) wedi'u nodi fel cysylltiadau agos yn y 7 diwrnod blaenorol. O blith y rhain, llwyddodd y timau olrhain cysylltiadau i gael gafael ar 113,521 (90.0%) a rhoi’r cyngor perthnasol iddynt.

Mae cyfran yr achosion positif a nodwyd fel cysylltiadau agos ag achosion positif blaenorol wedi bod yn newid yn ystod y pandemig. Mae wedi amrywio o tua 5% i dros 30% ar wahanol adegau ers sefydlu'r system olrhain cysylltiadau yn llawn ddiwedd haf 2020. Gwelwyd y gyfran uchaf ym mis Ebrill 2021, pan oedd cyfraddau achosion yn isel iawn. Mae'r gostyngiadau ym mis Rhagfyr 2020 a mis Rhagfyr 2021 yn cyfateb i gynnydd sydyn mewn cyfraddau achosion.

Amserlen digwyddiadau sy'n effeithio ar yr ystadegau hyn

Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf y gwasanaeth olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at nodi 2,616 o gysylltiadau ar gyfer camau dilynol. Cafwyd gafael ar 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a rhoddwyd y cyngor perthnasol iddynt.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Yn y datganiad cyfredol ac mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

17 Rhagfyr 2020

Ar 17 Rhagfyr 2020, cyflwynodd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru system newydd i roi’r cyfle i bobl ddarparu manylion eu cysylltiadau agos drwy e-ffurflen newydd. Mae pobl yn cael galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i’w gwahodd i lenwi’r e-ffurflen ac mae’r alwad hon yn cael ei diffinio fel cysylltiad llwyddiannus. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a ddangosir yn y datganiad hwn a bydd yn cael effaith ar ganran gyffredinol yr achosion positif a’r cysylltiadau y cafwyd gafael arnynt, a chanran yr achosion positif a chysylltiadau y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr. Oherwydd y gostyngiad mewn achosion positif yng Nghymru ac felly llai o achosion a chysylltiadau i’w holrhain, mae’r rhan fwyaf o dimau olrhain cysylltiadau lleol yn blaenoriaethu galwadau ffôn dros ddefnyddio’r e-ffurflen. Mae hyn yn golygu y bydd e-ffurflenni yn cyfrif am nifer eithriadol o fach o fewn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn. Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr i fonitro’r defnydd o’r e-ffurflen o fewn y system olrhain cysylltiadau, a byddwn yn cynnwys gwybodaeth bellach ar hyn os bydd y defnydd a wneir o’r e-ffurflen yn dechrau cynyddu’n sylweddol.

4 Mawrth 2021

O rifyn 4 Mawrth 2021 ymlaen, ni chaiff y data ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd o’r tu allan i Ardal Deithio Gyffredin y DU bellach eu cynnwys yn y ffigurau a gyflwynir yn y datganiad hwn, ac maent wedi cael eu tynnu o ddata hanesyddol. O gymharu â'r data fel y'i cyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2021, mae hyn wedi arwain at ostyngiad bach yn nifer yr achosion cyfeirio a’r cysylltiadau agos yn y data a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2021 gan fod y teithwyr rhyngwladol hyn yn cynrychioli llai na 3% o'r achosion wythnosol. Mae’r dinasyddion hyn yn ynysu oherwydd eu bod wedi teithio, ac er mwyn osgoi lledaenu unrhyw amrywiolion sy’n peri pryder o bosibl. Felly rhaid iddynt ddilyn proses cwarantin a reolir ar wahân. Os bydd teithiwr sy’n cyrraedd o leoliad rhyngwladol wedyn yn cael canlyniad positif i brawf, bydd wedyn yn dod yn achos cyfeirio, ac felly’n destun proses olrhain cysylltiadau lawn, a bydd yn rhan o’r ystadegau a gyflwynir.

13 Mawrth 2021

Nid yw cysylltiadau "swigod" ysgolion yn rhan o’r broses olrhain cysylltiadau ffurfiol, gan fod yr ysgol yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol ac yn darparu'r canllawiau angenrheidiol ar iechyd y cyhoedd ac ynysu. Am y rheswm hwn, gan ddechrau â’r datganiad a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth 2021 rydym wedi eithrio'r cysylltiadau hyn o'r ystadegau cysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn. Mae'r holl ddata hanesyddol wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newid hwn.

Mae’n debygol y bydd gan achosion positif gysylltiadau agos ychwanegol o’r ysgol a fydd yn cael eu cyfathrebu i dimau olrhain cysylltiadau lleol a bydd y rhain yn gymwys i gael camau dilynol. Mae’r cysylltiadau hyn yn rhan o’r ystadegau yn y datganiad hwn.

Mae modd cymharu’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn fras â chyhoeddiadau cyn 25 Mawrth 2021, er ein bod yn cynghori yn erbyn defnyddio'r cyhoeddiadau ar 11 Chwefror a 18 Chwefror 2021 i wneud cymariaethau, lle mae'r materion yn y data 'swigod' ysgolion wedi cael yr effaith fwyaf, a'r cyhoeddiad ar 23 Mawrth 2021 lle cafodd pob cyswllt ysgol ei ddileu wrth inni ymchwilio i fater ansawdd data. Gellir gwneud cymariaethau o fewn data'r gyfres amser yn y datganiad hwn lle mae data 'swigod' ysgolion wedi'u dileu drwyddi draw.

Amlinellir gwybodaeth ac arweiniad ar sut y gall ysgolion a lleoliadau barhau i wneud eu safleoedd mor ddiogel â phosibl ar gyfer staff a dysgwyr, gan gynnwys "swigod" ysgolion, mewn canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau.

21 Mawrth 2021

Ar gyfer yr wythnos 21 i 27 Mawrth 2021, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y cysylltiadau a oedd yn gymwys i gael camau dilynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gellir gweld hyn yn y tablau cysylltiedig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Credwn mai’r rheswm am hyn yw bod rhai cysylltiadau ysgolion wedi cael eu lanlwytho’n anghywir ar gyfer y rhanbarth hwn. Cafodd y cynnydd hwn effaith fach ar y ffigurau cenedlaethol a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer canran y cysylltiadau a nodwyd, ond effaith fwy ar yr amser a gymerwyd i gael gafael ar y cysylltiadau agos. Mae rhanbarthau wedi cael eu hatgoffa o’r canllawiau ar lanlwytho “swigod” ysgolion i’r system er mwyn osgoi rhagor o broblemau gyda’r data.

2 Mai 2021

Yn y datganiad ar 17 Mai 2021, newidiodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru y data olrhain cysylltiadau i ddileu cofnodion dyblyg. Cafodd y newid hwn ei wneud i ddata hanesyddol o ddechrau’r set ddata hon (21 Mehefin 2020) ymlaen. Mae cofnodion dyblyg yn digwydd pan fo mwy nag un achos positif yn nodi’r un cyswllt agos. Yn dilyn y newid hwn, dim ond unwaith y caiff cysylltiadau agos eu cyfrif yn y ffigurau sy’n gymwys i gael camau dilynol. Yn flaenorol, cawsant eu cyfrif pob tro y cawsant eu nodi gan achos positif. Mae achosion dyblyg yn cyfrif am hyd at 5% o’r cysylltiadau agos cymwys ym mhob wythnos.

16 Mai 2021

Pan fydd cysylltiadau agos yn cael eu nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG, caiff y rhain eu mewnbynnu i'r system â llaw gan nad yw’r achos positif y cawsant eu nodi ganddo yn bodoli yn system olrhain cysylltiadau Cymru. Gan nad yw'r achos positif yn system olrhain cysylltiadau Cymru, ni ddylai'r cysylltiadau agos hyn gael eu cynnwys yn y mesur amseroldeb o'r adeg y caiff achosion positif eu cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau. Dim ond yn ddiweddar y cawsom wybod am y prosesau sy'n gysylltiedig â'r cysylltiadau agos hyn, ac o’r wythnos yn dechrau ar 16 Mai 2021, rydym wedi dileu'r cysylltiadau agos hyn o'r mesur hwn a'r data hanesyddol i adlewyrchu'n fwy cywir yr wybodaeth yn y system olrhain cysylltiadau. Gan fod y cysylltiadau agos hyn yn gymwys i gael camau dilynol o dan system olrhain cysylltiadau Cymru, maent yn dal i ymddangos ym mhob ffigur arall sy'n ymwneud â chysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Bydd canran y cysylltiadau agos y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 awr a 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau yn ymddangos yn uwch nag mewn cyhoeddiadau blaenorol o ganlyniad i'r newid hwn. Ers mis Medi 2020, pan roddwyd y broses ar gyfer y cysylltiadau agos hyn ar waith, mae 60 o gysylltiadau agos bob wythnos ar gyfartaledd wedi’u nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG. Ar gyfer yr wythnos 16 i 22 Mai 2021 pan roddwyd y newid hwn mewn methodoleg ar waith am y tro cyntaf, arweiniodd y newid at gynnydd o 6 phwynt canran yn y mesur amseroldeb o fewn 24 awr a 7 pwynt canran yn y mesur amseroldeb o fewn 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau.

7 Awst 2021

O 7 Awst 2021 ymlaen, nid yw oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac a gafodd y brechlyn yn y DU, na phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19. Mae'r tîm olrhain cysylltiadau yn dal i gysylltu â chysylltiadau agos ac felly maent yn dal i gael eu cynnwys yn yr ystadegau a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn.

6 Medi 2021

Yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion positif a’r cysylltiadau sy’n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau, o’r wythnos yn dechrau 6 Medi 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fframwaith cenedlaethol i flaenoriaethu achosion sydd â risg uwch o drosglwyddo’r haint.

10 Hydref 2021

Mae trafferthion wedi’u nodi mewn labordy preifat yn Wolverhampton, Lloegr lle mae canlyniadau profion anghywir wedi cael eu darparu. O ganlyniad, mae nifer o bobl a brofwyd rhwng 4 a 12 Hydref wedi cael eu cynghori i wneud prawf arall, a allai effeithio ar nifer yr achosion positif sy’n gymwys i gael camau dilynol yn yr wythnosau yn dechrau 10 a 17 Hydref 2021. Amcangyfrifir bod hyn wedi effeithio ar tua 4,000 o brofion yng Nghymru, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

29 Hydref 2021

Ar 29 Hydref 2021, cafodd y meini prawf hunanynysu eu diweddaru ar gyfer cysylltiadau cartref sydd wedi'u brechu'n llawn neu sydd rhwng 5 a 17 oed. Mae’r gofynion diweddaraf i’w gweld yn Hunanynysu.

Wrth i bolisi newid o ran gweithredu'r system olrhain cysylltiadau, rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i bennu ansawdd data a dadansoddiadau pellach posibl o'r data.

Medi/Hydref 2021

Rhwng dechrau mis Medi a diwedd mis Hydref 2021, roedd y mesurau amseroldeb ‘canran yr achosion positif y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr’ yn is yn gyffredinol o gymharu â hanner cyntaf 2021. Mae’n debygol bod hyn oherwydd nifer uwch o achosion positif a chysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

17 Mawrth 2022

O 17 Mawrth 2022, anfonwyd e-ffurflenni yn awtomatig at bob achos positif a gofynnwyd iddynt eu cwblhau erbyn hanner nos ar yr un diwrnod. Pan fydd e-ffurflenni'n cael eu llenwi a'u dychwelyd mae'r achosion yn cael eu nodi fel rhai sydd wedi'u cyrraedd yn llwyddiannus ac yn cael eu cynnwys yn y mesurau amseroldeb. Pan na chaiff e-ffurflenni eu llenwi, caiff achosion eu neilltuo i dimau olrhain cysylltiadau lleol a gwneir ymdrechion i'w cyrraedd a chynghori yn unol â hynny fel arfer. Yn yr achosion hyn, gall achosion positif gyrraedd olrheinwyr cyswllt hyd at 24 awr ar ôl cael eu nodi, gan effeithio ar y mesurau amseroldeb cyffredinol.

Data Profi, Olrhain, Diogelu (olrhain cysylltiadau ar gyfer y coronafeirws (COVID-19))

 

Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Nifer yr achosion positif a chysylltiadau agos sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol ar StatsCymru

Mae'r ffigurau'n dangos nifer yr achosion positif a'r cysylltiadau agos sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae'r data'n cynrychioli nifer yr achosion cymwys a gyflwynwyd i'r system olrhain cysylltiadau o ddydd i ddydd.

Nifer yr achosion positif sy'n gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, yn ôl bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru

Mae'r data'n cynrychioli'r nifer wythnosol o achosion cymwys a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gan y bwrdd iechyd lleol.

Geirfa

Yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion sy’n anghymwys i gael camau dilynol gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny at yr asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi 2020.

Llwyddo i gael gafael ar gysylltiadau

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn a gyfeirir at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am wahanol resymau, ni fydd manylion cyswllt wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac efallai na fydd eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu negeseuon e-bost gan dimau olrhain. Nid yw cyfran yr achosion positif a oedd yn gymwys i gael camau dilynol ac y cafwyd gafael arnynt ond yn cynnwys yr achosion hynny y cafwyd gafael arnynt ond nid yw'n cynnwys yr achosion hynny lle mae swyddogion olrhain lleol wedi ceisio, ond wedi methu, cysylltu.

Mesurau amseroldeb

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gael gafael ar achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pan geir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus (gan gynnwys galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i wahodd achosion a chysylltiadau i lenwi’r e-ffurflen)
  • pan gynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • pan geir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Achosion positif a chysylltiadau agos

O'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau, nid yw canran y cysylltiadau agos y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 neu 48 awr yn cynnwys nifer bach o gysylltiadau agos na ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos positif a'u nodwyd. Gan amlaf, mae hyn yn digwydd ar gyfer cysylltiadau agos sydd wedi'u nodi drwy Ap y GIG, neu'r rhai sydd wedi'u nodi gan achos positif sy'n byw yn un o'r gwledydd eraill.

Galw

Drwy gydol y pandemig, mae cysylltiad rhwng y baich cyffredinol ar y system olrhain cysylltiadau a'r amser a gymerir i gael gafael ar gysylltiadau agos. Mae cynnydd sylweddol mewn achosion a chysylltiadau yn cyfateb i ostyngiadau yn y gyfran y cafwyd gafael arnynt o fewn 24 a 48 awr.

Cysylltiadau cartref

Pan geir gafael ar achos positif a gofyn iddo ddarparu manylion ei gysylltiadau agos, gofynnir iddo hefyd ddiffinio'r math o gyswllt. Pobl sy'n byw neu'n treulio cryn dipyn o amser yn yr un cartref yw cysylltiadau cartref, er enghraifft y rhai sy'n byw ac yn cysgu yn yr un cartref, tŷ amlfeddiannaeth lle rhennir cegin a/neu ystafell ymolchi, myfyrwyr mewn llety prifysgol sy'n rhannu cegin, a phartneriaid rhywiol, a phobl sydd wedi glanhau cartref lle mae achos yn byw heb gyfarpar diogelu personol.

Mesur y data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 12:12 ar 22 Mawrth 2022. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a gyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Data wythnosol yw’r data a gyflwynir yn y bwletin hwn (00:00 dydd Sadwrn i 23:59 dydd Gwener).

Cryfderau a chyfyngiadau

Adolygiadau

Mae’n bosibl y bydd nifer yr achosion sy'n gymwys i gael camau dilynol yn newid ychydig ar gyfer wythnosau diweddar o gymharu â datganiadau blaenorol oherwydd bod achosion yn cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau. Ceir rhagor o fanylion am y broses hon yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Anwadalrwydd dyddiol

Byddai data dyddiol yn dangos amrywiad mawr rhwng diwrnodau, gan adlewyrchu'r gwahaniaeth yn y galw ar y system (er enghraifft nifer y profion a wnaed). Rai diwrnodau, mae mwy o achosion yn cyrraedd timau olrhain cysylltiadau. Gall cynnydd mewn achosion positif neu gysylltiadau agos ddigwydd o ganlyniad i:

  • ôl-groniad o achosion o ddyddiau blaenorol
  • swp mawr o ganlyniadau profion yn cael eu cyflwyno
  • safle profi newydd yn agor
  • mwy o gapasiti profi yn dod ar gael

Mae data dyddiol ar gael ar StatsCymru.

Cymaroldeb

Mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni ellir cymharu'r ffynonellau data yma gyda’i gilydd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau o ran amseru a lefel y dilysu a wneir, gan fod angen i achosion a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gael eu trin â llaw gan dimau olrhain cysylltiadau.

Dolenni perthnasol

Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Hunanynysu

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau COVID-19, wedi profi'n bositif am COVID-19, neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19.

Pa ddata sydd ar gael am sut mae ap COVID-19 y GIG yn cael ei ddefnyddio? (GIG)

Mae’r data ar gyfer olrhain cysylltiadau drwy Ap COVID-19 y GIG yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n cynnwys data ar ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio’r gwiriwr symptomau, canlyniadau profion a dderbyniwyd, defnyddwyr y dywedwyd wrthynt i hunanynysu a digwyddiadau sganio/cofrestru mewn lleoliadau. Mae’r data cyhoeddedig diweddaraf a rhagor o wybodaeth i’w cael yn:

Ystadegau wythnosol ar gyfer Profi ac Olrhain y GIG (Lloegr) (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU)

Ystadegau arbrofol ar NHS Test and Trace ers ei lansio ar 28 Mai 2020. Mae’n cynnwys adroddiadau ar NHS Test and Trace (pobl a brofwyd ac olrhain cysylltiadau) a phrofion cyflym (dyfais llif unffordd) ar gyfer pobl heb symptomau.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

Diweddariad nesaf

Dydd Iau 31 Mawrth 2022.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn adolygu amlder datganiadau ystadegol COVID-19 yn unol â'r ddogfen cynllun pontio o bandemig i endemig COVID-19, gan gynnwys y datganiad hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio’r datganiadau hyn, ac unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud iddynt drwy kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am y data, cysylltwch â
Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 96/2022