Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddata cyflogaeth, enillion, mentrau, gwariant ac allbynnau sy’n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2024.

Cyflogaeth a swyddi cyflogeion yn 2022

Roedd y Diwydiannau Twristiaeth yn cyfrif am 11.8% o gyflogaeth (159,000) yng Nghymru yn 2022, cynnydd o151,000 yn 2020 (11.3% o gyflogaeth yng Nghymru) ac yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd lefelau cyflogaeth cyffredinol yng Nghymru wedi newid. Roedd 77% o’r swyddi twristiaeth (123,000) mewn lletygarwch. Yr is-sector â’r gyfran fwyaf o gyflogaeth yn 2022 oedd Gweithgareddau’r Gwasanaeth Bwyd a Diod gyda 6.8% (91,000) o gyflogaeth yng Nghymru ac wedyn Llety i Ymwelwyr â 1.9% (26,000). Roedd 55% o swyddi gweithwyr yn y diwydiant twristiaeth yn 2022 yn rhan amser, o’i gymharu â dim ond 35% o swyddi gweithwyr ym mhob diwydiant.

Enillion yn 2023

Roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2023 yn £14.85 yng Nghymru, ond o fewn diwydiannau cysylltiedig â thwristiaeth, roedd yn sylweddol is. Ymysg swyddi gweithwyr mewn Gweithgareddau Llety a Gwasanaethau Bwyd, roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn £10.99.

Mentrau yn 2023

Roedd mentrau twristiaeth (12,625) yn cynrychioli 11.8% o fentrau cofrestredig yng Nghymru yn 2023. Roedd 80% (10,065) o fentrau twristiaeth mewn lletygarwch, sy’n cyfrif am 9.4% o fentrau cofrestredig yng Nghymru.

Gwerth Ychwanegol Gros (GVA)

Gyda’i gilydd, roedd y saith diwydiant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ar lefel is-adran SIC yn cyfrif am 5.1% o GVA yng Nghymru yn 2022 (£3.8 biliwn). Mae GVA ar gyfer yr is-adrannau SIC hyn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 4.6% o GVA Cymru yn 2015 (£2.7 biliwn).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Proffil economi ymwelwyr Cymru: 2024 (annex) , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 33 KB

ODS
Saesneg yn unig
33 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Starkey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.