Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data sydd ar gael ar fentrau twristiaeth, cyflogaeth ac enillion twristiaeth, yn ogystal â gwariant a gwerth ychwanegol gros (GVA) twristiaeth yng Nghymru.  Adroddir ar wariant a gwerth ychwanegol gros twristiaeth ar gyfer 2019. Mae data ar gyfer cyflogaeth twristiaeth yn ymwneud â 2020, ac mae data ar enillion a mentrau twristiaeth yn ymwneud â 2021. Mae tablau data llawn ar gyfer 2015 i’r cyfnod diweddaraf sydd ar gael wedi’u cynnwys yn yr Atodiad. Sylwch mai data dros dro yw data enillion 2021 a data gwerth ychwanegol gros 2019.

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddiffiniad diwygiedig o’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru a ddatblygwyd gan Croeso Cymru gan ddefnyddio Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU i nodi dosbarthiadau o weithgarwch busnes sy’n fwy dibynnol ar wariant twristiaeth.

Diffiniad o’r Diwydiannau Twristiaeth

Defnyddir Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU (SIC) i ddosbarthu sefydliadau busnes yn ôl y math o weithgarwch economaidd y maent yn ymwneud ag ef. Gellir ei ddefnyddio fel ffordd gyfleus o ddosbarthu gweithgareddau diwydiannol yn strwythur cyffredin.

At ddibenion yr adroddiad hwn, mae Croeso Cymru wedi nodi cyfres o is-adrannau, dosbarthiadau ac is-ddosbarthiadau SIC yn y DU a allai gynrychioli’r diwydiannau twristiaeth yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am hierarchaeth SIC y DU a’r is-adrannau, y dosbarthiadau a'r is-ddosbarthiadau penodol a ddefnyddir yma, yn seiliedig ar ddiffiniad eang o ddiwydiannau sy’n nodweddiadol o dwristiaeth, ar gael yn yr Atodiad.

Ar ben hynny, at ddibenion yr adroddiad hwn, mae Croeso Cymru hefyd wedi nodi saith is-sector y Diwydiannau Twristiaeth yng Nghymru

  1. Llety i ymwelwyr
  2. Gweithgareddau gwasanaeth bwyd a diod
  3. Gweithgareddau chwaraeon a hamdden
  4. Gweithgareddau diwylliannol
  5. Trafnidiaeth i deithwyr
  6. Asiantaethau teithio a gweithgareddau cadw eraill
  7. Gweithgareddau twristiaeth penodol i’r wlad

Dangosir dosbarthiadau ac is-ddosbarthiadau SIC cyfatebol y DU yn Nhabl 5.1.

Diffinnir lletygarwch fel is-adran o'r diwydiannau twristiaeth, yn seiliedig ar is-ddosbarthiadau penodol a ddangosir yn Nhabl 5.0. Felly, at ddibenion y cyhoeddiad hwn, mae’r ffigurau ar gyfer y diwydiannau twristiaeth yn cynnwys lletygarwch yn ogystal â rhannau o dwristiaeth nad ydynt yn ymwneud â lletygarwch.

Darperir data ar gyfer cyflogaeth a mentrau cofrestredig yn yr adroddiad hwn ar gyfer pob diwydiant twristiaeth, ar gyfer Lletygarwch ac ar gyfer saith is-sector y diwydiant twristiaeth.

Er bod y ffigurau ar gyfer cyflogaeth a mentrau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y diffiniad sy’n cael ei ffafrio a’r diffiniad mwyaf manwl ar gyfer diwydiannau twristiaeth, mae amcangyfrifon ar gyfer gwerth ychwanegol gros ac enillion yn seiliedig ar amcangyfrifon gwahanol gan nad yw gwerth ychwanegol gros na data enillion ar gael ar lefel dosbarth nac is-ddosbarth SIC.

Yn hytrach, mae gwerth ychwanegol gros yn cael ei nodi ar gyfer saith is-adran SIC, ac mae pedwar o'r rheini yn dod o dan ddiffiniad diwydiant twristiaeth Croeso Cymru yn ei gyfanrwydd. Mae gweddill yr is-adrannau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan eu bod yn ymwneud yn bennaf â Thwristiaeth, er eu bod yn cynnwys gweithgaredd nad yw’n cael ei gyfrif yn niffiniad diwydiannau twristiaeth Croeso Cymru.

Er bod data enillion yn cael eu cyhoeddi ar lefel is-adrannau SIC, mae’r ffigurau a nodir yma yn seiliedig ar adrannau SIC, y lefel uwch, er mwyn sicrhau mwy o gywirdeb lle bo hynny’n bosibl. Fel y dangosir yn Nhabl 5.3, mae dwy adran SIC yr adroddwyd arnynt yn mapio’n uniongyrchol i chwech o’r saith is-adran SIC a nodwyd ar gyfer dadansoddi data GVA, ac adroddir ar yr is-adran SIC sy’n weddill ar lefel is-adrannau. Gweler Tabl 5.9 am fanylion.

Dylid cadw’r gwahaniaeth hwn yng nghynnwys y diwydiant mewn cof wrth gymharu ffigurau enillion neu werth ychwanegol gros ochr yn ochr â ffigurau cyflogaeth a mentrau. Gweler Atodiad Tabl 5.2 am fanylion.

Adroddir ar wariant twristiaeth ddomestig gan ddefnyddio data o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliad Undydd Prydain Fawr, ystadegau swyddogol sy’n ymwneud â thwristiaeth. Mae diffiniadau o deithiau twristiaeth yn seiliedig ar nodweddion safonol ac mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn adroddiadau blynyddol diweddar. Adroddir ar wariant twristiaeth yma ar sail data o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae rhagor o wybodaeth fethodolegol ar gael yn yr erthygl yma.

Mae’r diffiniad diwygiedig o ddiwydiannau twristiaeth a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn wedi cael ei ddiweddaru o’r diffiniad a nodwyd yn flaenorol yn Ystadegau Sectorau â Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r diffiniad diwygiedig yn cynnwys rhai diwydiannau ychwanegol ac yn eithrio rhai eraill, er mwyn adlewyrchu’n well y set o ddiwydiannau sy’n dibynnu ar dwristiaeth. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio ffynonellau data gwahanol o ffigurau Ystadegau Sectorau â Blaenoriaeth. Darperir data hanesyddol gan ddefnyddio’r diffiniad diwygiedig o ddiwydiannau twristiaeth a ffynonellau data wedi’u diweddaru yn yr Atodiad er mwyn gallu dadansoddi cyfresi amser. 

Mae’n bosibl y bydd anghysonderau bach rhwng dadansoddiad o’r categorïau a’r cyfansymiau oherwydd talgrynnu. Mae’r ffynonellau data wedi’u rhestru yn Tabl 5.17.

Y prif ganfyddiadau

Cyflogaeth a swyddi cyflogeion yn 2020

Mae’r adran hon yn defnyddio gwybodaeth o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio ystadegau cyflogaeth swyddogol. Mae data BRES yn cynnwys cyflogeion busnesau a gweithwyr hunangyflogedig os ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer cynlluniau TAW neu Dalu wrth Ennill (PAYE). Mae pobl hunangyflogedig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y rhain, ynghyd â’r Lluoedd Arfog a’r hyfforddeion a gefnogir gan y Llywodraeth, wedi’u heithrio.

Roedd y Diwydiannau Twristiaeth yn cyfrif am 11.3% o gyflogaeth[troednodyn 1] (151,000) yng Nghymru yn 2020, gostyngiad o 161,000 yn 2019 (12.1% o gyflogaeth yng Nghymru) ac yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd lefelau cyflogaeth cyffredinol yng Nghymru wedi newid. Mae twristiaeth fel cyfran o’r holl gyflogaeth yng Nghymru wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf, gan ostwng i 10.5% yn 2017, cyn codi i uchafbwynt diweddar yn 2019.

Roedd 76% o’r swyddi twristiaeth (115,000) mewn lletygarwch. Cafodd y gostyngiad mewn cyflogaeth Twristiaeth yn 2020 ei sbarduno’n bennaf gan ostyngiad mewn diwydiannau lletygarwch, o lefel cyflogaeth o 128,000 yn 2019 (9.6% o gyflogaeth yng Nghymru) i 115,000 (8.6%) yn 2020.

Yr is-sector â’r gyfran fwyaf o gyflogaeth yn 2020 oedd Gweithgareddau’r Gwasanaeth Bwyd a Diod gyda 6.0% (80,000) o gyflogaeth yng Nghymru ac wedyn Llety i Ymwelwyr â 2.4% (32,000).

Image
Mae’r rhan fwyaf o'r swyddi twristiaeth yn y diwydiannau Lletygarwch h.y. gwasanaethau llety a bwyd a diod. Mae is-gategorïau Twristiaeth fel Gweithgareddau Diwylliannol ac asiantaethau teithio yn ffurfio cyfrannau bach iawn.

Roedd 55% o swyddi gweithwyr[troednodyn 2] yn y diwydiant twristiaeth yn 2020 yn rhan amser, o’i gymharu â dim ond 34% o swyddi gweithwyr ym mhob diwydiant. O fewn lletygarwch, roedd 61% o swyddi gweithwyr yn rhan amser. Mae cyfran y gweithwyr rhan amser a llawn amser yn y diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch, ac yng Nghymru yn gyffredinol, wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, er bod cyfran y gweithwyr rhan amser yn y diwydiant Twristiaeth wedi gostwng ychydig o 57% yn 2020. Er bod twristiaeth yn cyfrif am 11.3% o gyflogaeth yng Nghymru yn 2020, roedd yn cyfrif am bron i 1 o bob 5 (18.4%) o weithwyr rhan amser (78,000 o weithwyr). Roedd nifer y gweithwyr rhan amser yn y diwydiant twristiaeth wedi gostwng tua 10,000 rhwng 2019 a 2020, o’i gymharu â lefelau gweithwyr llawn amser yn y diwydiant twristiaeth a oedd wedi gostwng tua 2,000.

Yng Nghanolbarth Cymru, roedd 13.2% o gyflogaeth yn y diwydiant Twristiaeth yn 2020, y gyfran fwyaf o’r pedwar rhanbarth, o’i gymharu â dim ond 10.0% yn Ne Ddwyrain Cymru. Gellir gweld patrwm tebyg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Gogledd a Chanolbarth Cymru â’r gyfran fwyaf o gyflogaeth mewn diwydiannau twristiaeth, a De Ddwyrain Cymru yw’r isaf. Ceir amrywiaeth sylweddol o fewn y rhanbarth ac ar draws y wlad. Yn Sir Benfro ac Ynys Môn roedd dros 20% o gyflogaeth mewn diwydiannau twristiaeth, yr uchaf o’r holl awdurdodau lleol, gyda’r lefelau isaf, dim ond 6%, yn Wrecsam. Mae tablau sy’n rhestru data cyflogaeth yn ôl ardal awdurdod lleol rhwng 2015 a 2020 wedi’u cynnwys yn Tabl 5.6.

Image
Mae gan Ogledd, Canolbarth a De Orllewin Cymru gyfran uwch na’r cyfartaledd o swyddi ym maes twristiaeth, dim ond De Ddwyrain Cymru sy’n is na’r cyfartaledd.

Fodd bynnag, De Ddwyrain Cymru oedd â’r canran mwyaf o swyddi yn y diwydiant twristiaeth gyda 43% (65,000), a Chanolbarth Cymru oedd â’r canran lleiaf, gyda 8% (12,000). Unwaith eto, mae’r dosbarthiadau hyn wedi aros yn gyson iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

Image
De Ddwyrain Cymru sydd â’r gyfran uchaf o gyflogaeth ym maes twristiaeth, yna Gogledd Cymru, De Orllewin Cymru ac yna Canolbarth Cymru

Atgoffir darllenwyr bod y ffigurau a ddyfynnir yma yn defnyddio Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ac y gallent fod yn wahanol i ffigurau cyflogaeth a amcangyfrifwyd gan ddefnyddio ffynonellau eraill, fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS).

Gweler tablau 5.4 i 5.8 i weld y tablau data llawn.

Bydd manylion demograffig ychwanegol am gyflogaeth y Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch, a oedd wedi cael eu cynnwys yn adroddiadau’r Sectorau â Blaenoriaeth yn flaenorol, yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Enillion yn 2021

Mae’r adran hon yn defnyddio data o Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol sy’n samplu swyddi gweithwyr o gofnodion cynllun Talu wrth Ennill CThEM. Cesglir data bob blwyddyn yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ym mis Ebrill yn y flwyddyn adrodd. Sylwer mai data dros dro yw data enillion 2021.

Roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2021 yn £12.82 yng Nghymru, ond o fewn diwydiannau cysylltiedig â thwristiaeth, roedd yn sylweddol is. Ymysg swyddi gweithwyr mewn Gweithgareddau Llety a Gwasanaethau Bwyd, roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn £8.91, ar gyfer swyddi yn y diwydiant Celfyddydau, Adloniant a Hamdden, roedd yn £9.51, ac ar gyfer gweithgareddau asiantaethau teithio a gweithredwyr teithiau, roedd yn £9.65.

Roedd cyflog canolrifol fesul awr ar gyfer swyddi yn y diwydiant Llety a Gwasanaethau Bwyd 6.5% yn uwch yn 2021 nag yn 2020. Ar gyfer swyddi yn y diwydiant Celfyddydau, Adloniant a Hamdden, roedd y cyflog canolrifol fesul awr wedi cynyddu 2.8% yn unol â’r cyfartaledd ar draws pob diwydiant yng Nghymru (2.6%).

Mentrau yn 2021

Mae’r adran hon yn defnyddio gwybodaeth o’r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol (IDBR), o fis Mawrth bob blwyddyn. Menter yw’r cyfuniad lleiaf o unedau cyfreithiol (fel arfer yn seiliedig ar gofnodion TAW a/neu gynllun Talu wrth Ennill) sydd â rhywfaint o ymreolaeth o fewn grŵp o unedau cyfreithiol dan berchnogaeth gyffredin.

Dim ond y busnesau hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW neu gynllun Talu wrth Ennill y mae’r data IDBR a Demograffeg Busnes yn eu cynnwys, felly ni fydd masnachwyr unigol sy’n is na’r trothwy TAW yn cael eu cynnwys (oni bai eu bod wedi cofrestru’n wirfoddol).

Roedd mentrau twristiaeth (12,110) yn cynrychioli 11.3% o fentrau cofrestredig yng Nghymru yn 2021. Roedd 79% (9,600) o fentrau twristiaeth mewn lletygarwch, sy’n cyfrif am 9.0% o fentrau cofrestredig yng Nghymru. Mae cyfran y mentrau twristiaeth wedi cynyddu rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 10.9% yn 2019, er bod y ffigur hwn wedi dilyn nifer o flynyddoedd o ddirywiad araf, o 11.4% yn 2015. Roedd cyfrannau’r mentrau lletygarwch yn dilyn tuedd debyg.

Yr is-sector yn y diwydiant twristiaeth a oedd yn cyfrif am y gyfran fwyaf o fentrau twristiaeth cofrestredig oedd Gweithgareddau’r Gwasanaeth Bwyd a Diod, a oedd yn cynrychioli 7.1% (7,585) o fentrau yng Nghymru, ac wedyn Llety i Ymwelwyr â 1.5% (1,610).

Image
Mae’r rhan fwyaf o'r mentrau twristiaeth cofrestredig yn dod o’r diwydiannau Lletygarwch h.y. gwasanaethau llety a bwyd a diod.  Mae is-gategorïau Twristiaeth fel Gweithgareddau Diwylliannol ac asiantaethau teithio yn ffurfio cyfrannau bach iawn

Mae gan dair menter twristiaeth o bob pump (59%) lai na 5 o weithwyr, sy’n gyfran is na’r holl ddiwydiannau yng Nghymru (77%).

Mae gan draean (34%) o fentrau twristiaeth rhwng 5 a 19 o weithwyr, cyfran uwch na’r holl ddiwydiannau yng Nghymru (18%).

Atgoffir diwydiannau mai dim ond busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW neu gynllun Talu wrth Ennill y mae’r IDBR yn eu cynnwys. Mae’n bosibl bod gan dwristiaeth a/neu letygarwch gyfran uwch na’r cyfartaledd o fasnachwyr unigol nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW ac na fyddent yn ymddangos yn y ffigurau hyn. Mae ffynonellau data cyflogaeth eraill fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cynnwys gweithwyr hunangyflogedig a busnesau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer cynllun Talu wrth Ennill neu TAW.

Image
Mae dosbarthiad maint mentrau mewn Twristiaeth a Lletygarwch yn dangos llai o fusnesau micro a mwy o fentrau bach h.y. hyd at 50 o weithwyr, nag yng Nghymru ar gyfartaledd

Yng Ngogledd Cymru, roedd 12.2% o fentrau mewn diwydiannau twristiaeth, y lefel uchaf o bob rhanbarth. Roedd y nifer isaf yng Nghanolbarth Cymru lle nad oedd ond 9.5% o’r mentrau mewn diwydiannau twristiaeth.

Mae rhywfaint o amrywiaeth ledled Cymru. Yng Ngwynedd, roedd 16% o’r mentrau mewn diwydiannau twristiaeth, sef y gyfran uchaf, o’i gymharu â’r gyfran isaf a welwyd yn Sir y Fflint, lle mai dim ond 8% o’r mentrau oedd mewn diwydiannau twristiaeth. Mae tablau sy’n dangos data am fentrau cofrestredig yn ôl ardal awdurdod lleol rhwng 2015 a 2021 wedi’u cynnwys yn Nhabl 5.11.

Image
Mae gan y Gogledd a’r De Orllewin gyfran uwch na’r cyfartaledd o fentrau twristiaeth cofrestredig.  Mae gan Dde Ddwyrain a Chanolbarth Cymru gyfrannau sy’n is na chyfartaledd Cymru.

Yn yr un modd â dosbarthiad cyflogaeth, roedd y gyfran fwyaf o fentrau twristiaeth yng Nghymru yn Ne Ddwyrain Cymru (40%) ac roedd y gyfran leiaf yng Nghanolbarth Cymru (10%).

Image
De Ddwyrain Cymru sydd â’r gyfran uchaf o fentrau twristiaeth cofrestredig yng Nghymru, yna Gogledd Cymru, De Orllewin Cymru ac yna Canolbarth Cymru.

Gweler tablau 5.8 i 5.12 i weld y tablau data llawn.

Gwariant a Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) Twristiaeth 2019

Gwariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth

Mae gwariant uniongyrchol a gynhyrchir gan weithgarwch Twristiaeth yn cael ei fesur drwy arolygon o ymwelwyr â Chymru. Mae gwariant i mewn yn cael ei gofnodi drwy’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’i adrodd yn eu cyhoeddiad Tueddiadau Teithio; ac mae gwariant domestig yn cael ei gofnodi drwy Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr. Mae dadansoddiad rhanbarthol o’r gwariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ar gael ym Mhroffiliau Twristiaeth Rhanbarthol a Lleol Croeso Cymru.

Yn 2019, bu £6.0 biliwn o wariant cysylltiedig ar deithiau twristiaeth yng Nghymru. Roedd £3,447 miliwn ar ymweliadau diwrnod twristiaeth gan drigolion Prydain Fawr, £2,003 miliwn ar ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr a £515 miliwn gan ymwelwyr.

Gwerth Ychwanegol Gros (GVA)

Sylwer mai data dros dro yw data GVA 2019. Atgoffir defnyddwyr i nodi’r gwahaniaeth rhwng diffiniadau’r Diwydiant Twristiaeth a ddefnyddir ar gyfer GVA wrth edrych ar y ffigurau hyn ochr yn ochr â’r rhai ar gyfer cyflogaeth a mentrau. Gweler Diffiniadau o’r Diwydiannau Twristiaeth i gael rhagor o fanylion.

Gyda’i gilydd, roedd y saith diwydiant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ar lefel is-adran SIC yn cyfrif am 5.0% o GVA yng Nghymru yn 2019 (£3.4 biliwn). Mae GVA ar gyfer yr is-adrannau SIC hyn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 4.6% o GVA Cymru yn 2015 (£2.7 biliwn).  

Roedd y cyfrannau mwyaf yn dod o weithgareddau gwasanaethau Bwyd a Diod, a oedd yn cyfrif am 2.2% o GVA Cymru yn 2019 (£1.5 biliwn), a Llety a oedd yn cyfrif am 1.4% (£0.9 biliwn).

Mae'r cyfraniad GVA cyfun yn debyg i ffigur y DU (5.2%) er bod Llety yn cyfrif am gyfran uwch yng Nghymru tra bod gweithgareddau asiantaethau teithio a gweithredwyr teithiau a gweithgareddau creadigol, y celfyddydau ac adloniant yn cyfrif am gyfrannau llai yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol.

Gweler tablau 5.13, 5.14 a 5.15 i weld y tablau data llawn.

Image
Ar ôl gwasanaethau bwyd a diod a llety, chwaraeon, adloniant a hamdden yw ail gyfrannwr mwyaf GVA. Mae’r categorïau sy’n weddill yn cyfrannu cyfrannau llai - llai na 0.5% yr un.

Rhagor o adnoddau

Mae Is-gyfrif Twristiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio System Cyfrifon Cenedlaethol i ddadansoddi gwerth gweithgarwch economaidd cysylltiedig â thwristiaeth gan gynnwys gwariant, gwerth ychwanegol a chyflogaeth.

Mae data ar berfformiad twristiaeth hyd at 2019, gan gynnwys nifer a gwariant ymwelwyr domestig a rhyngwladol, perfformiad busnes a deiliadaeth llety ar gael yn adroddiadau Perfformiad Twristiaeth Cymru. Mae’r data diweddaraf am hyder busnesau twristiaeth ar gael yn y Baromedr Busnes Twristiaeth COVID-19 a’r Baromedr Busnes Twristiaeth.

Defnyddir Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU (SIC) i ddosbarthu sefydliadau busnes yn ôl y math o weithgarwch economaidd y maent yn ymwneud ag ef.

Amcangyfrifir nifer yr ymweliadau twristiaeth, gwariant cysylltiedig, proffil ymwelwyr ac ymddygiad drwy ddefnyddio tri arolwg o ymwelwyr â Chymru: yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae gwariant domestig yn cael ei gofnodi drwy Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a gynhelir gan Croeso Cymru.

Troednodiadau

[1] Mae gweithiwr yn golygu unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn ac sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol drwy gyflogres(au) sefydliad, yn gyfnewid am swydd amser llawn neu ran amser neu am fod ar gynllun hyfforddi. Nid yw’n cynnwys gweithwyr gwirfoddol, hunangyflogedig, perchnogion sy’n gweithio nad ydynt yn cael eu talu drwy gynllun Talu wrth Ennill. Mae cyflogaeth yn cynnwys gweithwyr a nifer y perchnogion sy'n gweithio. Felly, mae ffigurau BRES yn cynnwys gweithwyr hunangyflogedig ar yr amod eu bod wedi’u cofrestru ar gyfer cynllun TAW neu gynllun Talu wrth Ennill. Mae pobl hunangyflogedig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y rhain, ynghyd â’r Lluoedd Arfog a’r hyfforddeion a gefnogir gan y Llywodraeth, wedi’u heithrio.

[2] Mae gweithiwr yn golygu unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn ac sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol drwy gyflogres(au) sefydliad, yn gyfnewid am swydd amser llawn neu ran-amser neu am fod ar gynllun hyfforddi. Nid yw’n cynnwys gweithwyr gwirfoddol, hunangyflogedig, perchnogion sy’n gweithio nad ydynt yn cael eu talu drwy gynllun Talu wrth Ennill.

Manylion cyswllt

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Jennifer Velu
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 31/2022
ISBN digidol 978-1-80364-054-9

Image
GSR logo