Procurex, Parth Arddangos Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector: hysbysiad preifatrwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn bartner allweddol i Procurex, y prif ddigwyddiad caffael cyhoeddus cenedlaethol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Procurex Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n helpu gweithwyr caffael proffesiynol i gael gwell canlyniadau i'w sefydliadau yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau ledled Cymru.
Yn Procurex Cymru eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd i greu ardal nodwedd newydd. Bydd yr ardal hon yn canolbwyntio ar gydnabod rhagoriaeth ac arloesedd cyflenwyr ymhlith microfusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Bydd yr ardal hon, fydd yn cael ei noddi’n llawn, yn dangos cyfraniad y cyflenwyr bach ond pwysig hyn i'r sector caffael cyhoeddus yng Nghymru ac yn annog mwy o'r mentrau cydweithredol hyn yn y dyfodol.
Gofynnir i gyflenwyr sy'n awyddus i arddangos yn y parth arddangos newydd hwn gyflwyno datganiad o ddiddordeb a fydd yn cael ei asesu gan banel annibynnol o gynrychiolwyr a ddewisir gan Lywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data a bydd yn cadw cofnod o’ch data personol i gynorthwyo gyda'r broses mynegi diddordeb gan gynnwys asesu, cydlynu'r parth, a hyrwyddo'r parth yn barhaus i gynulleidfaoedd allanol. Fel y rheolydd data, Llywodraeth Cymru sy’n pennu sut a pham y gellir prosesu data personol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon sy'n gweithredu fel proseswyr data er mwyn galluogi cydlynu a chyflwyno'r parth hwn. Mae hyn yn cynnwys:
- Freshwater UK Limited, sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru fel y prosesydd data, ac yn casglu'r wybodaeth mynegi diddordeb ac yn cydlynu a darparu'r parth.
- BiP Solution UK Limited, y sefydliad sy'n gyfrifol am gyflwyno digwyddiad Procurex.
- Bydd yn ofynnol i Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, Prifysgol Caerdydd, ddefnyddio eich data i fesur a yw'r arddangosfa wedi cyflawni ei hamcanion gwreiddiol.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am sut rydyn ni’n trin eich data wrth i chi fynegi eich diddordeb i arddangos ym Mharth Arddangos Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector yn Procurex.
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Freshwater UK Limited a BiP Solutions Limited i ddarparu'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r lle yn rhad ac am ddim i'r cyflenwyr llwyddiannus allu arddangos yn y parth hwn.
Wrth fynegi eich diddordeb, bydd gofyn i gyflenwyr gyflwyno pwynt cyswllt penodol. Mae hyn yn cynnwys:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Sefydliad
- Gwybodaeth am y sefydliad i gefnogi'r gwaith o asesu'r mynegiant o ddiddordeb.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a darparu'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector. Mae gweithgareddau penodol sy’n defnyddio eich data yn cynnwys:
- Ymgysylltu parhaus mewn perthynas â’ch mynegiant o ddiddordeb
- Gweinyddu gweithgareddau i ddarparu'r parth
- Darparu arweiniad a chymorth i gefnogi arddangos
- Casglu eich adborth a'ch canlyniadau
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol?
O dan Erthygl 6 o Reoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, sail gyfreithlon prosesu gwybodaeth yw Buddiant Dilys. Hynny yw, drwy brosesu eich data personol, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i ddatblygu, cydlynu, hyrwyddo a chyflwyno'r Parth Microfusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo microgyflenwyr, elusennau, cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus a mentrau cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau llesiant yng Nghymru.
Pa mor ddiogel yw eich data personol a gyda phwy rydym ni’n rhannu eich gwybodaeth?
Bydd gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a rennir yn cael ei chadw gan Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru. Bydd aelodau staff yn yr adran hon yn cael mynediad at eich gwybodaeth i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Parth. Mae unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio ar ran ddiogel o iShare (system rheoli dogfennau mewnol Llywodraeth Cymru).
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth â Freshwater UK Limited a BiP Solutions Limited i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo eich presenoldeb yn Procurex.
Am ba hyd rydym ni’n cadw eich data personol?
Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am hyd at 2 mlynedd. Ar ôl cyfnod o 2 flynedd bydd y data a gedwir ar ffeil yn cael ei adolygu. Os nad yw'r data'n cael ei ddefnyddio bellach, bydd yn cael ei hepgor o'n cofnodion.
Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych trwy unrhyw ran o’r ymchwil a gynhaliwyd drwy’r Rhaglen Ymchwil Gweithwyr, yn benodol mae gennych yr hawl:
- I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun.
- I ni gywiro gwallau yn y data hynny.
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau).
- I’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r gwaith hwn yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cysylltwch â:
David Nicholson
Rhif ffôn: 03000 257310
E-bost: david.nicholson@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.