Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu eich rhent i'ch landlord, cyngor neu gymdeithas dai, a chymorth i'w dalu.
Rhentu oddi wrth landlord preifat neu asiant gosod eiddo
Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, neu fod gennych ddyledion rhent yn daladwy, rhaid i chi wneud y canlynol:
- trafod gyda’ch landlord neu asiant gosod eiddo
- parhau i dalu eich rhent (os oes modd)
Dylech hefyd ystyried cytuno ar gynllun ad-daliadau â’ch landlord. Mae’n bosibl ei fod wedi gohirio ad-daliadau morgais drwy gytundeb gyda’u darparwyr morgais. Holwch am hyn pan fyddwch yn trafod.
Help i dalu eich rhent a’ch biliau
Os nad ydych wedi gallu talu eich rhent oherwydd y coronafeirws a bod gennych ôl-ddyledion rhent, gallwch wneud cais am fenthyciad oddi wrth undeb credyd. Dysgwch sut i wneud cais am y Benthyciad Arbed Tenantiaeth.
Mae’n bosibl hefyd cael help gan arbenigwr dyledion yn Cyngor ar Bopeth Cymru. Gallant esbonio’r opsiynau sydd ar gael i chi.
Cysylltu â Cyngor ar Bopeth Cymru
- Ffôn: 0808 278 7920 Llun – Gwener (9am to 5pm)
- gwefan Cyngor ar Bopeth Cymru
Gallech hefyd gael cymorth ariannol i helpu i dalu eich rhent a’ch biliau yn sgil pandemig y coronafeirws.
Rhentu oddi wrth awdurdod lleol neu gymdeithas dai
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- trafod gyda’ch awdurdod lleol neu gymdeithas dai
- parhau i dalu eich rhent (os oes modd)
- dylech hefyd ystyried cytuno ar gynllun ad-daliadau â’ch awdurdod lleol neu gymdeithas tai.