Neidio i'r prif gynnwy

I gyd-fynd ag Wythnos Wyddoniaeth Prydain, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, £6.6 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi ymchwil addysg uwch yng Nghymru eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn braenaru'r tir ar gyfer dull gweithredu newydd, mwy hirdymor o ymdrin ag ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Diben hyn yw helpu i gryfhau seiliau ymchwil yng Nghymru drwy alluogi ymchwilwyr yng Nghymru i gystadlu am fwy o ran o gyllid newydd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), fel yr awgrymwyd gan adolygiad yr Athro Graeme Reid o ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.

Rheolir y cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Dywedodd Kirsty Williams: <?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />

"Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae prifysgolion Cymru wedi cynyddu maint, effaith a chyrhaeddiad rhyngwladol eu hymchwil. Mae Cymru bellach ymhlith y perfformwyr ymchwil mwyaf effeithlon, yn troi lefelau cymharol fach o gyllid yn ymchwil uchel ei pharch, ac yn y broses yn perfformio'n well na rhannau eraill o'r DU a gwledydd o faint tebyg o ran effaith eu hymchwil gyhoeddedig.

"Yn yr hinsawdd economaidd ansicr sydd ohoni, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn helpu ein prifysgolion i feithrin eu gallu o ran gwaith ymchwil a’n bod yn ymateb nid yn unig i newidiadau yn y maes ymchwil yn y DU ond hefyd i ganlyniadau posibl Brexit."

Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:

“Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn cryfhau rhagoriaeth gwaith ymchwil yn ein prifysgolion ac mae'r rhai sy'n arwain gwaith ymchwil yng Nghymru yn croesawu'r cyllid hwn.

“Rhaid inni barhau i feithrin gallu Cymru o ran ymchwil ac arloesedd a thynnu sylw at y gwaith ymchwil sy'n digwydd yma, sy’n cael cymaint o effaith ac sy'n cyfrannu at ein proffil rhyngwladol ac yn rhoi hwb i'n gallu economaidd at y dyfodol.”

Dywedodd Dr Alyson Thomas, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid CCAUC:

“Mae cryfhau ein seiliau o ran gwaith ymchwil nid yn unig yn dod â manteision academaidd, cymdeithasol ac economaidd, ond mae hefyd yn rhoi hwb i allu prifysgolion i gystadlu am grantiau allanol ac yn annog pobl i fuddsoddi yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru ar yr adeg hon yn fawr iawn, ac yn edrych ymlaen at weld y datblygiadau a ddaw yn ei sgil i sector ymchwil gwerthfawr a chynaliadwy ein prifysgolion.”