Heddiw bydd Jeremy Miles y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn cyhoeddi mwy na £1miliwn o arian yr UE i hybu gwaith ymchwil i ddeunyddiau magnetig ac electromagnetig yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi Prosiect Deunyddiau Magnetig a Chymwysiadau (MAGMA) Prifysgol Caerdydd, ac yn galluogi'r brifysgol i ehangu ei rhaglenni ymchwil a datblygu i feysydd gan gynnwys cerbydau trydan, arloesi ynni a deunyddiau uwch.
Mae aloion magnetig yn gydran hanfodol mewn moduron, generaduron a synwyryddion electronig. Bydd Prifysgol Caerdydd yn ehangu ac yn datblygu rhaglenni ymchwil a datblygu ar y cyd â’r diwydiant yng Nghymru a diwydiant byd-eang, yn uwchraddio labordai a llunio’r astudiaethau diweddaraf o'r defnydd o ddeunyddiau magnetig ar gyfer systemau ynni carbon isel a systemau trafnidiaeth yn y dyfodol.
Wrth i'r gwaith ymchwil gael ei gydnabod ar draws y byd disgwylir iddo greu gwerth £3.6 miliwn o incwm ar gyfer gwaith ymchwil dros y pedair blynedd nesaf. Bydd hyn yn arwain ar greu canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd yng Nghaerdydd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau magnetig i'w defnyddio mewn diwydiant.
Dywedodd Jeremy Miles, sy'n goruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r arian hwn a fydd yn cryfhau gwaith ymchwil a datblygu Prifysgol Caerdydd ar systemau trafnidiaeth, pŵer ac ynni newydd sy'n ecogyfeillgar.
"Mae cyllid yr UE wedi helpu i mewn meysydd ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, y seilwaith a sgiliau yng Nghymru, a dyma enghraifft arall o sut y mae cyllid yr UE yn galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran y broses o drosglwyddo i fod yn economi, carbon isel sy'n fwy gwyrdd."
Bydd y prosiect MAGMA sydd werth £2.1 miliwn hefyd yn cael £1miliwn oddi wrth Brifysgol Caerdydd a'r sector preifat.
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:
"Mae’r rhaglen ymchwil MAGMA yn chwarae rhan hanfodol o ran datblygu technolegau'r genhedlaeth nesaf i sicrhau planed sy'n lanach ac yn fwy gwyrdd.
Ni fydd peidio â defnyddio tanwyddau ffosil a chreu cymdeithas sy'n fwy cynaliadwy ac sy'n defnyddio mwy o drydan ac yn sicrhau llai o allyriadau yn bosibl os na fydd y gwaith o ddatblygu deunyddiau allweddol yn parhau."
Dros y degawd diwethaf, mae prosiectau wedi'u hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu dros 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl yn ôl i gael gwaith.