Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cyhoeddi bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o Gymru’n cael eu cydnabod am eu gwaith ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall:

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

"Hoffwn longyfarch pob un o'r rhai sydd wedi derbyn anrhydedd am eu holl waith caled a'u hymroddiad drwy gydol y pandemig a thros nifer o flynyddoedd. Rwy'n gobeithio bod hyn yn gydnabyddiaeth o'r gwaith rhagorol maen nhw wedi'i wneud yn ein gwasanaethau iechyd a'u hymrwymiad anhunanol i helpu eraill.

"Mae eleni wedi bod yn hynod o heriol i bawb ar draws y sector, gan ein bod wedi mynd i'r afael â'r pandemig ac wedi ymdrechu i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw Cymru'n ddiogel. Ond mae gwaith rhyfeddol ein staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn un o'r goleuadau disgleiriaf o obaith a balchder i Gymru mewn cyfnod tywyll ac anodd.

"Rydym yn hynod falch o'n GIG yng Nghymru. Dim ond un enghraifft oedd y curo dwylo ar nosweithiau Iau ar gyfer ein gofalwyr a'n staff rheng flaen o'n gwerthfawrogiad o bopeth maen nhw wedi'i wneud i'n gwarchod a gofalu amdanom. Rwy'n gobeithio y bydd yr anrhydeddau hyn yn dangos ein diolch am bopeth maen nhw wedi'i wneud."