Mae Prif Weinidogion Cymru a'r Alban wedi galw ar Theresa May i weithio gyda'r gwledydd datganoledig wrth iddynt gyhoeddi eu gwelliannau ar y cyd i Fil Brexit Llywodraeth y DU.
Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU, mae Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn cydnabod bod cyfrifoldeb ar bob un ohonynt i gydweithio ar draws y Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer Brexit.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Mae llawer o waith i'w wneud gan lywodraethau'r ynysoedd hyn i sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mor esmwyth â phosib. Does dim modd gwneud hyn heb gydweithio.
"Mae'n wir dweud bod safbwyntiau gwleidyddol Theresa May, Nicola Sturgeon a minnau i gyd yn wahanol iawn, ond ar fater mor bwysig â Brexit rhaid i ni roi'r gwahaniaethau gwleidyddol hynny o'r neilltu a chydweithio i sicrhau sefydlogrwydd er lles ein heconomi, ein swyddi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Nid oes modd i un Llywodraeth benderfynu cipio pwerau oddi wrth y ddwy arall.
"Heddiw, mae Nicola Sturgeon a minnau wedi cyhoeddi gwelliannau ar y cyd i'r bil i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a fyddai'n caniatáu i'r llywodraethau symud ymlaen mewn ffordd sy'n parchu'r setliadau datganoli y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau.
"Rydyn ni am weld Bil sy'n gweithio gyda'r broses ddatganoli, nid yn ei herbyn. Nes cyrraedd y sefyllfa honno, does dim modd i ni gydsynio i'r Bil. Dydy'r gwelliannau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn ddim i'w wneud ag atal Brexit. Y bwriad yw gwarchod buddiannau pobl Cymru a'r Alban. Gobeithio y byddan nhw’n ennyn cefnogaeth eang ar draws Tŷ'r Cyffredin.
"Hyd yma, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn amharod i drafod gyda'r gwledydd datganoledig, ac wedi dangos diffyg ymddiriedaeth sylfaenol. Er hynny, rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gweld newid sylweddol o heddiw ymlaen yn y ffordd y mae'n Llywodraethau'n cydweithio ar Brexit. Drwy wrando ar ein gilydd, gallwn ni ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n diogelu buddiannau pob rhan o'r Undeb."