Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog newydd y DU yn gofyn iddo ddatgan ar unwaith na fydd yn caniatáu Brexit heb gytundeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Maent wedi gosod pedwar cam y gallai'r Prif Weinidog newydd eu cymryd ar unwaith i sicrhau perthynas fwy cynhyrchiol rhwng llywodraethau'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gofyn i’r Adolygiad o'r Cysylltiadau Rhynglywodraethol sy’n mynd rhagddo osod system gadarn yn ei lle i gydweithio ar sail mwy o gydraddoldeb.
  • Ymrwymiad i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn mewn negodiadau rhyngwladol, sy'n effeithio ar feysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.
  • Dylai Llywodraeth y DU sicrhau na fydd Cymru na'r Alban yn colli ceiniog os yw’r DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 
  • Disodli'r Papur Gwyn ar Fewnfudo gan gynigion sy'n adlewyrchu anghenion economi'r DU yn gyfan.

Maent hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i baratoi ar gyfer ail refferendwm ar yr UE.

Mae'r Prif Weinidogion yn dweud yn eu llythyr:

"Mae'r ffaith nad ydych wedi dweud yn bendant na fyddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref yn destun pryder i ni.

“Er y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod wedi paratoi gymaint â phosib ar gyfer sefyllfa o'r fath, nid oes amheuaeth y byddai'r canlyniadau'n drychinebus i bob rhan o'r DU.

“Byddai'n gwbl afresymol i Lywodraeth y DU ystyried anhrefn llwyr ymadael heb gytundeb, ac rydym yn pwyso arnoch i ymwrthod â'r posibilrwydd hwn mewn ffordd bendant a diamwys cyn gynted â phosib.

“Rydym hefyd yn dweud yn glir bod rhaid trosglwyddo'r penderfyniad ynghylch ymadael â'r UE yn ôl at y bobl. Polisi'r ddwy lywodraeth yw y dylai Senedd y DU ddeddfu ar gyfer refferendwm arall. Os bydd refferendwm o'r fath yn cael ei gynnal, byddwn yn dadlau'n gryf y dylai'r DU aros yn yr UE.”

Maent yn ychwanegu:

"Tra bo perygl y byddwn yn ymadael heb gytundeb – er gwaetha'r gwahaniaethau rhwng ein llywodraethau – rhaid sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn gweithredu mewn ffordd gadarn ac adeiladol gyda'n gilydd i liniaru'r effeithiau gymaint â phosib.

“Rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy'n parchu datganoli yn llwyr. Ac yng ngham nesaf y broses o ymadael â’r UE, mae'n hanfodol cynnwys holl lywodraethau'r Deyrnas Unedig mewn ffordd ystyrlon yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

“Bydd hyn yn gofyn am newid sylweddol i'r diwylliant a'r ymagwedd at gysylltiadau rhyngwladol a welwyd dros y tair blynedd ddiwethaf, er mwyn sicrhau bod y parch priodol yn cael ei ddangos i fuddiannau a sefydliadau datganoledig."