Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidogion Cymru a’r Alban yn cwrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn cwrdd yng Nghaeredin heddiw i drafod sut y gall y ddwy lywodraeth gydweithio i amddiffyn datganoli rhag ymgais gan San Steffan i “gipio pwerau”.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae ein safbwynt yn glir a diamwys – mae’r Bil Ymadael yn mynd yn groes i ddatganoli ac ni allwn ei dderbyn ar ei ffurf bresennol. Dyma ymgais hollol amlwg gan Whitehall i gipio pwerau, ac ni fyddai hynny o fudd i bobl Cymru nac i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

“Rydym wedi bod yr un mor glir ein bod yn barod i ddod ynghyd i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i geisio cytuno ar drefniadau’r dyfodol. Ond mae eu hymddygiad dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos nad oes ganddynt unrhyw awydd gwirioneddol i dderbyn y gwahoddiad. Oni bai ein bod yn gweld newid llwyr yn eu hagwedd, fyddwn ni ddim yn argymell y dylai’r Cynulliad gydsynio i’r Bil.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda Nicola Sturgeon y pryderon sydd gan y ddau ohonom am y Bil hwn ac am faterion ehangach yn ymwneud â Brexit sy’n effeithio ar ein dwy wlad. Trwy siarad ag un llais, byddwn yn ei gwneud yn glir na all Llywodraeth y DU orfodi ei hewyllys ar rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Dywedodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon:

“Cyn ac ar ôl y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, addawyd pwerau newydd i Holyrood. Ond, yn lle hynny, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynllunio i roi cyfyngiadau newydd ar Senedd yr Alban.

“Mae Bil Llywodraeth y DU ar Ymadael â’r UE yn dychwelyd pwerau i San Steffan yn unig – hyd yn oed mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ellir caniatáu i bwerau gael eu cipio fel hyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda Carwyn Jones sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i newid y Bil fel bod modd amddiffyn datganoli ac amddiffyn buddiannau pobl yr Alban a Chymru.  Mae’n amhosibl dychmygu sut y gallem argymell y dylai Senedd yr Alban gydsynio i’r ddeddfwriaeth fel y mae.

“Rydym wedi dweud dro ar ôl tro ein bod yn fodlon cynnal trafodaeth adeiladol am drefniadau’r dyfodol gyda Llywodraeth y DU. Ond rhaid i hyn ddigwydd drwy gytundeb a phartneriaeth yn hytrach na gorfodaeth.

“Mae Llywodraeth yr Alban yn gwneud popeth o fewn ei gallu i atal Brexit eithafol, i gadw’r DU yn y Farchnad Sengl ac i amddiffyn datganoli.”