Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi galw cyfarfod eithriadol o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i drafod canlyniad refferendwm yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Galwodd y Prif Weinidog am gynnal yr uwchgynhadledd heddiw yng Nghaerdydd i drafod goblygiadau Brexit i’r Cyngor a’r aelodau.  

Bydd arweinwyr a Gweinidogion o’r wyth aelod-weinyddiaeth sy’n rhan o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn bresennol yn y cyfarfod, sef Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon, gweinyddiaethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a Llywodraethau Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.  

Sefydlwyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig dan Gytundeb Belfast 1998, a oedd yn sylfaen i broses heddwch Gogledd Iwerddon. Mae’r cyngor yn datblygu cysylltiadau rhwng aelod-weinyddiaethau ac yn darparu fforwm i gyfnewid gwybodaeth a meithrin cydweithio ar draws yr ynysoedd.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Carwyn Jones:

“Fe alwais i’r uwchgynhadledd hon er mwyn i arweinwyr a Gweinidogion o bob cwr o Brydain ac Iwerddon gael cyfle i drafod y newidiadau sylfaenol a fydd yn dod i’n rhan yn sgil canlyniad refferendwm yr UE.

“Mae’r cyngor yn chwarae rhan unigryw a phwysig yn datblygu perthynas gadarnhaol rhwng ei haelodau. Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, mae’n bwysicach nag erioed i ni gynnal cryfder y berthynas hon a chydweithio i ddod o hyd i ffordd lwyddiannus ymlaen.

“Mae Cymru’n parhau i fod yn genedl agored, allblyg a chroesawgar, ac yn lle gwych ar gyfer busnes. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod cynrychiolwyr yr aelod-weinyddiaethau yn hwyrach heddiw i drafod sut y gallwn gyflwyno neges gadarnhaol, unedig ar ran bob rhan o’n hynysoedd i’r byd.”