Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, dderbyniad i lysgenhadon ac uchel gomisiynwyr y Deyrnas Unedig yn Llundain heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoddodd y digwyddiad yn Somerset House gyfle i'r Prif Weinidog gwrdd â'r gymuned ddiplomyddol ehangach, nodi ei blaenoriaethau a thrafod y cyfleoedd sydd ar gael i Gymru gyda chynrychiolwyr o genhedloedd eraill. 

Dywedodd Eluned Morgan:

"Rwy'n awyddus i Lywodraeth Cymru chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu cyfleoedd o fewn Cymru a thu hwnt. Mae'r gymuned ddiplomyddol yn darparu cefnogaeth ragorol i helpu i feithrin cysylltiadau agosach â llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.

"Rydym wedi cyhoeddi rhai buddsoddiadau mawr gan gwmnïau rhyngwladol yma yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf a hoffwn barhau i wneud hynny. Mae gennym hefyd lysgenhadon diwylliannol a chwaraeon sy'n codi proffil Cymru yn rhyngwladol, gan helpu i ddenu darpar fuddsoddwyr ac ymwelwyr i ystyried Cymru fel cyrchfan, a hyrwyddo Cymru fel cynhyrchydd nwyddau a gwasanaethau sydd ag apêl fyd-eang.

"Yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Rhyngwladol, a fydd yn nodi'r gweithgareddau rhyngwladol i gefnogi'r gwaith o gyflawni fy mhedair blaenoriaeth.

"Mae fy neges yn glir: Mae Cymru yn agored, ac yn barod i groesawu cyfleoedd busnes - rhaid i ni fanteisio ar y momentwm hwn, gan roi gwybod i'r byd beth all Cymru ei gynnig."