Mae Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i chwarae â dyfodol y wlad.
Gyda Phrif Weinidog y DU yn wynebu'r posibilrwydd o golli'n drwm yn Nhŷ'r Cyffredin, a'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn cynyddu, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd y byddai rhagor o gyllid o Gronfa Bontio'r UE yn cael ei ryddhau i helpu Cymru i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o weld y DU yn cael ei rhwygo'n ddisymwth o'r UE.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru, yn gosod dewis arall a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i economi Cymru a diogelu swyddi a gwasanaethau.
Rydyn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda ni er mwyn sicrhau'r cytundeb gorau posib i'r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae disgwyl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn ychydig dros 70 diwrnod, a does dim cytundeb yn ei le. Rydyn ni wedi cael ein harwain at y dibyn gan lywodraeth hollol ddi-glem sydd â mwy o ddiddordeb mewn ymdrechion byrbwyll i uno'i phlaid ei hun na budd y wlad.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn chwarae â dyfodol y wlad. Cymerodd ddwy flynedd i lunio cynigion Chequers - sef cynnig cyntaf i bob pwrpas ar gynllun ar gyfer perthynas hirdymor – er y dylai hynny fod wedi digwydd cyn tanio Erthygl 50 bron i ddwy flynedd yn ôl.
"Collwyd amser hanfodol yn dadlau dros linellau coch yn hytrach na datblygu strategaeth ymarferol ac adeiladu cynghreiriau o gefnogaeth, gan gynnwys gyda'r rhai a oedd - fel Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol - yn annog ymadawiad synhwyrol yn seiliedig ar barch i'r Undeb Ewropeaidd a buddiannau hanfodol y wlad hon.
"Does dim modd osgoi difrifoldeb gwirioneddol y sefyllfa sydd yn ein hwynebu nawr. Mae ymadael heb gytundeb yn ganlyniad cwbl bosib, ac mae'n rhaid i ni fel llywodraeth gyfrifol wneud popeth o fewn ein gallu i gydweithio ag eraill a lliniaru'r effaith lle bynnag bo hynny'n bosib.
"Drwy Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd, rydyn ni wedi medru helpu cannoedd o fusnesau Cymru, yn ogystal â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid eraill, i gynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau Brexit."
Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans heddiw yn cadarnhau bod tri phrosiect arall wedi derbyn cyllid o Gronfa Bontio'r UE.
Y prosiectau hynny yw:
- •Cadernid Partneriaeth yr Heddlu - £435,000 i helpu'r heddlu i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd y cyllid yn helpu fforymau cadernid lleol i gynllunio ac ymateb i sefyllfaoedd niweidiol ac argyfyngau sifil, yn arbennig yng nghyd-destun ymadael heb gytundeb.
- •Cymorth Brexit ADSS Cymru - £150,000 ar gyfer ADSS Cymru i ddarparu gwybodaeth a chyngor proffesiynol am effaith bosib Brexit ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- •Paratoadau ar gyfer trefniadau yn lle cronfeydd strwythurol yr UE - £590,000 i helpu i weithredu model buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl ymadael â'r UE. Mae hyn yn cynnwys cymorth allanol ar gyfer datblygu prosiectau a gwerthuso paratoadau ar gyfer system buddsoddi rhanbarthol newydd gwerth sawl biliwn o bunnoedd dros sawl blwyddyn. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod gan Gymru'r dull gweithredu gorau posib i sicrhau cyllid llawn yn lle'r hyn sy'n cael ei golli, a rheolaeth dros drefniadau a fydd yn dilyn cronfeydd strwythurol yr UE.
Dywedodd:
"Wrth i'r bygythiad o ymadael heb gytundeb dyfu, rydyn ni wedi canolbwyntio ar geisiadau sy'n ymdrin â'r blaenoriaethau uniongyrchol os byddwn yn ymadael heb gytundeb.
"Does dim un ohonom ni am fod yn y sefyllfa hon. Ond rydyn ni'n parhau i fod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill i sicrhau cytundeb synhwyrol â'r Undeb Ewropeaidd."
Ychwanegodd Jeremy Miles:
"Byddwn yn gweld cyn hir sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Senedd yn bwriadu datrys y sefyllfa hon. Rydyn ni eisoes wedi galw am ymestyn dyddiad Erthygl 50.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi drysu ei ffrindiau, tanseilio buddiannau'n gwlad, achosi pryder i Ewropeaid yn ein cymuned a gwaethygu rhaniadau dwfn ymysg ei dinasyddion ei hun. Os nad oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno cytundeb all sicrhau cefnogaeth gadarn, dylai gamu naill ochr. Does dim modd i'r llanast presennol barhau."