Neges gan Brif Weinidog Cymru.
Mae hi’n Sul y Cofio heddiw. Yn anffodus, nid hwn yw’r tro cyntaf – na’r tro olaf, mae’n debyg – imi ddechrau nodi diwrnod neu ddigwyddiad arbennig yn ein calendr drwy ddweud ei fod yn edrych yn wahanol iawn i’r hyn yr ydym wedi arfer ag ef.
Ni fydd torfeydd yn ymgynnull mewn eglwysi, ger cofebion rhyfel nac mewn gerddi Coffa ledled Cymru i dalu teyrnged i’r cenedlaethau o ddynion a merched sydd wedi gwasanaethu dros eu gwlad. Ond eto, ni chânt eu hanghofio.
Un o’r pethau mwyaf creulon am y pandemig hwn yw ein bod wedi gorfod lleihau cymaint ar y cysylltiad sydd gennym gyda’n gilydd oherwydd bod y feirws yn ffynnu ar gysylltiad dynol. Bydd llawer llai o bobl yn bresennol yn bersonol yng ngwasanaethau'r Cofio eleni, ond byddant yno ar ran pob un ohonom. Ond, er gwaethaf pob her a wynebir yn sgil y feirws, nid yw ein hawydd i ddangos parch yn ddim llai.
Ni fydd sŵn traed aelodau’r Lluoedd Arfog a’r cyn-filwyr yn gorymdeithio gyda’i gilydd i’w glywed mor uchel eleni, ond fe ddaw Cymru ynghyd unwaith eto i ddangos ei gwerthfawrogiad o’r aberth anhygoel a wnaed.
Am y tro cyntaf erioed, bydd y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar-lein a bydd modd ei wylio gartref. Byddaf yn cael y fraint fawr o osod torch yn ystod y seremoni ar ran pawb yng Nghymru.
Bydd Race Council Cymru hefyd yn cynnal seremoni i anrhydeddu cyfraniad gwerthfawr yr holl filwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y Lluoedd Arfog, sydd weithiau’n cael ei anghofio yn ein dathliadau cenedlaethol.Roeddwn yn falch o gael cymryd rhan yng Ngŵyl Goffa rithiwr Cymru, a gynhaliwyd ar-lein gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ar 31 Hydref. Bydd digwyddiadau eraill ar raddfa fach a thrwy wahoddiad yn unig yn cael eu cynnal ledled Cymru, gyda llawer o gymunedau lleol yn cynnal digwyddiadau coffa ar-lein a gwyliau rhithiwr.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn o gerrig milltir arwyddocaol. Ym mis Mai a mis Awst, nodwyd 75 mlynedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a diwrnod Buddugoliaeth yn Japan. Effeithiodd y pandemig ar y ddau ddigwyddiad cenedlaethol pwysig hynny. Fodd bynnag, drwy efelychu ysbryd y genhedlaeth honno a ddaeth drwy’r Ail Ryfel Byd, gwnaethom ddiolch iddynt am yr hyn a wnaethant dramor ac ar y ffrynt cartref.
Wrth imi siarad â rhai o’r cyn-filwyr dros y ffôn a thrwy alwadau fideo, cefais fy nharo gan y cyfraniad anhygoel a wnaeth pobl o Gymru i’r ymdrech genedlaethol honno. Gwasanaethodd Edna Leon o Wrecsam fel cogydd, gan gadw’r ymdrech ryfel ar fynd; gwasanaethodd Walford Hughes o Aberystwyth yn ymgyrch y Dwyrain Pell, a chefnogodd y Burma Star Association am flynyddoedd ar ôl rhoi’r gorau i wasanaethu; ac roedd Gordon Prime o Ddoc Penfro yn negesydd brys. Maent yn enghreifftiau perffaith o unigolion sy’n rhoi eu dyletswyddau gwasanaethu o flaen eu hanghenion eu hunain.
Mae heddiw’n gyfle i fyfyrio ar y cyfraniad y mae ein Lluoedd Arfog yn parhau i’w wneud. Yn ystod y pandemig hwn, mae llawer wedi defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd i gefnogi ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau lleol. Mae aelodau presennol o’r Lluoedd Arfog wedi gyrru ambiwlansys ac wedi danfon cyfarpar diogelu personol, wedi adeiladu ysbytai maes ac wedi helpu parafeddygon – mae ein dyled yn fawr iddyn nhw a’r holl weithwyr hanfodol sy’n helpu i Ddiogelu Cymru.
Mae aelodau eraill o’r Lluoedd Arfog wedi cael eu lleoli dramor – fel sy’n digwydd bob blwyddyn – i gefnogi cymunedau mewn rolau cadw heddwch neu i ddarparu diogelwch a chynnig hyfforddiant. Mae bywyd yn y Lluoedd Arfog yn golygu y gall teuluoedd fod ar wahân am gyfnodau hir o amser. Eleni yn arbennig, bydd hynny wedi achosi straen a phryder ychwanegol wrth i’r byd fyw o dan bwysau yn sgil y coronafeirws. Rydym yn sefyll gyda nhw heddiw hefyd.
Mewn cyfnod pan ofynnir i bawb yng Nghymru wneud aberth, rydym yn cofio’r cenedlaethau o’n blaenau a aberthodd lawer er mwyn i ni gael byw ei bywydau fel yr ydym yn ei wneud heddiw. Rydym hefyd yn cofio eu hymroddiad i’r ymdrech ar y cyd.
Mae hwn yn gyfnod anodd i bob un ohonom. Mae’r coronafeirws yn taflu cysgod hir dros ein bywydau i gyd, yn arbennig felly dros fywydau’r rhai sydd wedi colli anwyliaid eleni.
Wrth inni gofio heddiw am y rhai a wasanaethodd ac a’r holl unigolion a dalodd y pris eithaf, gadewch inni hefyd fyfyrio ar yr aberth anferth y mae llawer o bobl ledled Cymru wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, wrth inni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu Cymru.