Heddiw mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi prosiectau newydd i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog £10 miliwn ychwanegol i gefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru erbyn 2027. Heddiw, mae wedi amlinellu sut bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i nodi'n gynharach y rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a chymryd camau i atal hyn.
Mae'r cyllid yn cynnwys:
- £3.7 miliwn ar gyfer y Grant Cymorth Ieuenctid er mwyn cryfhau'r gwasanaethau i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a mynd i'r afael â'r hyn sy'n ei achosi
- £4.8 miliwn ar gyfer Cronfa Arloesi i ddatblygu dulliau newydd o helpu pobl ifanc i gael cartref, a allai gynnwys cymorth i'r rheini sy'n gadael gofal
- £250,000 ar gyfer rhaglenni cyfathrebu ac ymgysylltu sydd wedi'u targedu, er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael
- £250,000 ar gyfer gwaith gyda Shelter Cymru i gefnogi tenantiaethau ac ar gyfer ei linell gymorth bresennol, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn fwy hwylus i bobl ifanc i'w helpu i gynnal tenantiaethau
Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys £1 miliwn i ddyblu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi sydd eisoes yn darparu cymorth ariannol i'r rheini sy'n gadael gofal er mwyn eu helpu i symud tuag at fod yn annibynnol.
Ers ei lansio y llynedd, mae'r Gronfa hon wedi darparu cymorth ariannol i 1,900 o bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, megis blaendal ar gyfer cartref newydd neu wersi gyrru er mwyn iddynt allu cael mynediad at waith ac addysg.
Mae'r £10 miliwn hwn yn ychwanegol at y £20 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eisoes i atal digartrefedd rhwng 2018 a 2020.
Ymwelodd y Prif Weinidog â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol The Hangar yn Aberbargoed i gwrdd â phobl ifanc sydd wedi gweithio gyda phartneriaid Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili i wella eu cyfleoedd bywyd. Roedd hyn yn cynnwys delio â materion yn ymwneud â digartrefedd neu'r perygl o fod yn ddigartref.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru cyn yr ymweliad:
"Mae gormod o bobl ifanc yn wynebu dyfodol sy'n gallu ymddangos yn llwm, yn annheg ac yn anochel oherwydd ansicrwydd o ran y to uwch eu pennau. Dyma pam ein bod wedi ymrwymo i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027.
"Mae ein dull gweithredu yn fentrus ac yn arloesol ac yn canolbwyntio ar ymyriadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd - mae dros 18,000 o bobl ifanc wedi'u hatal rhag bod yn ddigartref ers 2015.
Heddiw bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn cyflwyno datganiad llafar yn y Senedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Mae nifer o ffactorau cymhleth, sy'n aml yn gysylltiedig, yn arwain at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Nid mater tai yn unig yw hyn; mae'n llawer ehangach na hynny.
"Dyna pam y gofynnodd y Prif Weinidog i mi yn gynharach eleni i gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae'r grŵp hwn yn gweithio ar draws y llywodraeth a thu hwnt. Rydym yn cydnabod bod mynd i'r afael â digartrefedd yn gofyn am gydweithio rhwng gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau eraill."
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Addysg:
"Bydd y buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc yn gyffredinol.
"Mae ein gwasanaethau ieuenctid a threfniadau'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, sy'n cydlynu cymorth amlasiantaeth yn y ffordd orau bosibl, yn rhan allweddol o hyn. Rwy'n croesawu targed Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027 ac mae'r cyllid hwn yn sicr yn gam da yn y cyfeiriad cywir."