Heddiw, mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi dyfarniadau cyflog uwch na chwyddiant ar gyfer cannoedd o filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd cyflogau staff y GIG, athrawon a gweithwyr y sector cyhoeddus mewn llawer o wasanaethau datganoledig yn cynyddu yn 2024-2025, a hynny rhwng 5% a 6%.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol yn llawn:
- Bydd athrawon yn cael dyfarniad cyflog gwerth 5.5%.
- Bydd staff y GIG ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid yn cael dyfarniad cyflog gwerth 5.5%.
- Bydd meddygon a deintyddion, gan gynnwys meddygon teulu a meddygon teulu cyflogedig, yn cael dyfarniad cyflog gwerth 6%, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno ar ddyfarniad cyflog gwerth 5% ar gyfartaledd i weision sifil ac i staff mewn nifer o gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae pobl ledled Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf mai gweithwyr y sector cyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau ry'n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw – o'r nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru.
"Maen nhw eisiau iddyn nhw gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith hanfodol. Mae'r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n parch tuag at eu gwaith caled.
"Ond mae'r cyhoedd hefyd wedi pwysleisio eu bod eisiau i wasanaethau cyhoeddus wella – yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd ac addysg. Byddwn ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau hyn i weithredu ar yr hyn ddywedodd pobl wrthon ni yn yr ymarfer gwrando dros yr haf."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Rebecca Evans:
"Ry'n ni'n gwerthfawrogi'n fawr y cannoedd o filoedd o bobl sy'n gweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Ry'n ni wedi gweithio'n galed i allu gwneud y cynnig hwn.
"Ry'n ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur i sicrhau setliadau cyflog teg sy'n fforddiadwy ond sydd hefyd yn cydnabod cyfraniad enfawr gweithwyr y sector cyhoeddus."
Mae cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn gwneud argymhellion i lywodraethau ynglŷn â chyflogau. Nid yw rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys staff llywodraeth leol, gwasanaethau tân ac achub a gofal cymdeithasol, yn cael eu cynnwys gan y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ac ymdrinnir â nhw drwy broses ar wahân.