Mae mesurau i foderneiddio a symleiddio'r broses ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru wedi dod yn gyfraith heddiw - wrth i Ddeddf Seilwaith (Cymru) gael y Cydsyniad Brenhinol.
Mae'r ddeddf newydd, a gafodd ei phasio gan Senedd Cymru ym mis Ebrill, yn gwneud newidiadau mawr i'r fframwaith deddfwriaethol ac yn cyflymu'r broses gydsynio ar dir a môr.
Bydd yn mynd i'r afael mewn ffordd unedig â'r broses gydsynio gan roi cysondeb a sicrwydd i Gymru allu sicrhau, datblygu a denu rhagor o fuddsoddi mewn seilwaith.
Wrth selio ei Ddeddf gyntaf ers dechrau ar ei swydd, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething:
"Argyfwng yr hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu, felly rwy'n falch iawn y bydd y ddeddf newydd hon yn allweddol ar gyfer cyrraedd targedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru.
"Wrth i ni symud tuag at allyriadau 'net sero' erbyn 2050, mae angen i ni weddnewid ein heconomi i bweru ffyniant gwyrdd. Bydd y ddeddf newydd hon yn ein galluogi i roi cydsyniad i brosiectau seilwaith mewn ffordd drylwyr a chyflym."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James:
"Mae proses gydsynio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn cynnal prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero-net.
"Yn ogystal â helpu Cymru i gystadlu am arian buddsoddi a swyddi, bydd hefyd yn cryfhau cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill drwy roi cyfleoedd cadarn i gymryd rhan mewn proses agored a theg i'w helpu i siapio datblygiadau sy'n effeithio arnyn nhw.
"Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid wrth ddatblygu is-ddeddfwriaeth i helpu i sicrhau bod y broses ar gyfer cydsynio seilwaith yn effeithiol ac effeithlon, gyda chymaint â phosib yn cymryd rhan."
I sicrhau bod y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei rhoi ar waith yn esmwyth, mae dau bapur ymgynghori wedi cael eu cyhoeddi.
Mae'r papur ymgynghori cyntaf yn canolbwyntio ar y drefn ymgynghori cyn ymgeisio ac yn gofyn i gymunedau lleol a charfanau eraill am syniadau ynghylch sut y dylid cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Bydd yr ail bapur ymgynghori'n holi am ffioedd y broses gydsynio.
Anogir cymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau iddyn nhw helpu i ffurfio'r datblygiadau sy'n effeithio arnyn nhw.